9. Dadl Fer: 'Gwrandewch arnom ni. Cefnogwch ni.': Yr angen i sicrhau mynediad at gefnogaeth iechyd meddwl i bobl ifanc

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 3 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 6:20, 3 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â chanolfan Wolfson ym Mhrifysgol Caerdydd. Tîm amlddisgyblaethol yw hwn sy'n ceisio deall achosion problemau iechyd meddwl y glasoed a llywio ffyrdd newydd o gefnogi ein pobl ifanc. Rwy'n falch iawn fod y ganolfan wedi recriwtio pobl ifanc sydd â phrofiad o broblemau iechyd meddwl i ymuno â'i grŵp cynghori newydd ac rwy'n gweld hwn yn gyfle enfawr i sicrhau bod cymorth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yn cael ei lywio gan ymchwil o'r radd flaenaf. Rwyf hefyd yn croesawu'r holiadur y mae Rhun wedi'i roi ar ei gyfryngau cymdeithasol, a phan fydd wedi'i gwblhau, byddwn yn ddiolchgar pe gallai rannu'r canfyddiadau â mi. Rwy'n cyfarfod â Beat yfory mewn gwirionedd i siarad am eu gwasanaethau ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'r buddsoddiad yn Beat yn sylweddol iawn i gydnabod y cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy'n dioddef o anhwylderau bwyta, a pha mor ddwys yw'r anhwylderau hynny. 

Yn ogystal â hyn, mae sicrhau bod gwasanaethau eiriolaeth ffurfiol ar gael i blant a phobl ifanc hefyd yn hanfodol, ac mae gan bob bwrdd iechyd ei drefniadau ei hun ar waith i'w cynnig. Yn ogystal, fel y dywedais, mae byrddau iechyd unigol wedi bod yn gweithio mewn amryw o ffyrdd i gefnogi plant a phobl ifanc, gan gynnwys cynnal grwpiau pobl ifanc a chynhyrchu siarter pobl ifanc sy'n gyson â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod angen gwneud mwy o waith i gryfhau gwasanaethau eiriolaeth i blant a phobl ifanc, oherwydd mae'r pandemig wedi effeithio ar y gwaith hwnnw, a hoffwn ailadrodd fy ymrwymiad i yrru'r gwaith hwnnw yn ei flaen.

Cyfeiriodd Peredur at argymhellion Cymdeithas y Plant, felly roeddwn yn meddwl y byddai'n ddefnyddiol tynnu sylw at y gwaith rydym eisoes yn ei wneud i sicrhau bod cefnogaeth i blant a phobl ifanc ar gael cyn gynted â phosibl. Mae ein dull presennol o weithredu yn Llywodraeth Cymru wedi'i lywio gan nifer o ddarnau allweddol o waith, gan gynnwys yr adroddiad 'Cadernid Meddwl', yr ymchwiliad y bûm yn ei gadeirio ac yn ei yrru ymlaen fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a'r grŵp gorchwyl a gorffen ar y dull system gyfan. Mae hefyd wedi'i lywio gan y grŵp rhanddeiliaid ifanc cenedlaethol. Mae'r gwaith hwn wedi cefnogi dull system gyfan, gan sicrhau bod y cymorth hwn ar gael ar draws sawl math o leoliad i wella mynediad, ac yn hanfodol, mae'r rheini'n lleoliadau lle mae plant a phobl ifanc yn byw eu bywydau—mewn ysgolion, mewn colegau ac mewn gwasanaethau ieuenctid.

Ar hyn o bryd mae byrddau iechyd yn sefydlu mannau cyswllt unigol, a fydd yn helpu i nodi'r bobl ifanc nad oes angen cymorth iechyd meddwl arbenigol arnynt, ond sy'n eu cysylltu â chymorth priodol yn y gymuned. Rydym hefyd yn cwblhau cynlluniau i dreialu dewisiadau amgen yn lle ysbyty i bobl ifanc mewn argyfwng. Mae darparu'r cymorth cywir yn yr amgylchedd cywir yn hanfodol, a dyna pam, ym mis Mawrth eleni, y gwnaethom gyhoeddi fframwaith statudol newydd i ymgorffori dull ysgol gyfan o gefnogi iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc ledled Cymru. I gefnogi'r gwaith o weithredu'r fframwaith, rydym wedi cytuno ar gyllid o £360,000 yn 2021-22 i benodi cydgysylltwyr gweithredu i weithio gydag ysgolion a phartneriaid, gan eu cynorthwyo i asesu a mynd i'r afael â'u hanghenion llesiant.

Fel rhan o'n dull system gyfan, rydym wedi buddsoddi mewn cynlluniau peilot mewngymorth ysgolion ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Dangosodd y gwerthusiad terfynol, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2021, ganlyniadau addawol, ac yn arbennig, y cymorth a ddarperir gan ymarferwyr iechyd meddwl penodedig i feithrin capasiti mewn ysgolion i gefnogi iechyd meddwl a llesiant disgyblion. Ac rwy'n falch o ddweud, Peredur, ein bod, ar sail y profiad cadarnhaol hwn, yn cyflwyno'r gwasanaeth ledled Cymru gyfan bellach, ac yn gynharach yn yr haf, dyfarnwyd bron i £4 miliwn yn y flwyddyn gyfredol i gefnogi'r gwaith o'i gyflwyno'n genedlaethol. Rydym yn gweld y gwasanaeth mewngymorth fel agwedd allweddol ar gymorth o dan ein dull ysgol gyfan a'r fframwaith statudol a gyhoeddwyd gennym ar 15 Mawrth. Dros dair blynedd gyllidebol rhwng 2019-20 a 2021-22, rydym wedi sicrhau cynnydd o 360 y cant yn y gyllideb i gefnogi ein gwaith dull system gyfan, gan ddangos ein hymrwymiad yn y maes hwn. Neilltuwyd £9 miliwn i gefnogi'r rhaglen hon yn 2021-22. Mae hyn yn cynnwys cyllid i ymestyn a gwella darpariaeth cwnsela mewn ysgolion, cymorth i ddarparu ymyrraeth gyffredinol ac wedi'i thargedu ar gyfer dysgwyr mewn ysgolion, ac i gefnogi hyfforddiant athrawon ac aelodau eraill o staff ysgolion mewn perthynas â'u llesiant eu hunain a llesiant plant. 

Yn gynharach eleni, gwnaethom gyhoeddi fframwaith NYTH y GIG—sef rhoi nerth, ymddiried, tyfu'n ddiogel a hybu—ac mae'r fframwaith hwn yn darparu offeryn cynllunio i fyrddau cynllunio rhanbarthol allu gweithredu dull system gyfan o ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl, llesiant a chymorth i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Rydym yn cynorthwyo byrddau cynllunio rhanbarthol i weithredu fframwaith NYTH mewn ffordd systematig ac integredig ledled Cymru ac rwy'n cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda byrddau iechyd a byddaf yn ymweld â byrddau partneriaeth rhanbarthol unigol ledled Cymru i ysgogi cynnydd. Yn hollbwysig, bydd hyn yn helpu i ddarparu cymorth iechyd meddwl emosiynol priodol i'r rhai nad oes angen cymorth neu ymyrraeth glinigol arnynt. Yn hollbwysig hefyd, caiff ei gydgynhyrchu gyda phlant a phobl ifanc a'u teuluoedd. 

Rydym yn gwneud cynnydd da hefyd ar gyflawni camau gweithredu i wella iechyd meddwl mewn gwaith ieuenctid. Rydym wedi cyflwyno hyblygrwydd ychwanegol o fewn y grant cymorth ieuenctid a'r grant cyrff ieuenctid gwirfoddol cenedlaethol. Mae hyn wedi galluogi awdurdodau lleol yn y sector gwirfoddol i ymateb mewn ffordd fwy ystwyth i anghenion pobl ifanc i helpu i gefnogi eu hanghenion llesiant emosiynol ac iechyd meddwl drwy gydol y pandemig. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau ar-lein, cadw mewn cysylltiad a chyswllt wyneb yn wyneb ar gyfer y bobl ifanc fwyaf agored i niwed.

Wrth gwrs, rwy'n cydnabod yr angen i sicrhau bod gwasanaethau arbenigol ar gael i'r plant sydd angen y lefel honno o gymorth. Gan adeiladu ar ein buddsoddiad blaenorol eleni, rydym wedi ymrwymo £5.4 miliwn ychwanegol i wella cymorth CAMHS yn y gymuned ac yn ein hunedau CAMHS arbenigol yng Nghymru. Rydym hefyd wedi buddsoddi yng ngwasanaethau argyfwng y GIG ac rydym ar y trywydd cywir i gael un man cyswllt 24 awr i bob oedran ar gyfer argyfyngau iechyd meddwl ym mhob ardal bwrdd iechyd erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Bydd y cymorth hwn yn hanfodol er mwyn darparu mynediad cyflym at ymarferydd iechyd meddwl i gynghori a chefnogi unigolion a'u hatgyfeirio at gymorth arall os oes angen.

Felly, i gloi, Lywydd dros dro, rwy'n gobeithio fy mod wedi gallu dangos heddiw a rhoi rhywfaint o sicrwydd fod y mater hwn yn parhau i fod ar frig fy agenda wleidyddol a fy mod yn gwbl benderfynol o barhau i yrru'r gwaith hwn yn ei flaen. Nid oes unrhyw beth yn bwysicach nag ateb anghenion iechyd meddwl a chymorth emosiynol ein plant a'n pobl ifanc. Diolch yn fawr.