Mercher, 3 Tachwedd 2021
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt...
Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Weinidog yr Economi, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan John Griffiths.
1. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran datblygu polisïau i greu swyddi cynaliadwy â chyflogau da mewn diwydiannau technoleg yn ne-ddwyrain Cymru? OQ57091
2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ57096
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr i ddechrau—Tom Giffard. Mae'r cwestiynau i'w hateb gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon. Tom Giffard.
3. Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o gyfraniad llwythi a gludir gan drenau i economi Cymru? OQ57116
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddatblygu economi Gorllewin De Cymru? OQ57085
5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi economi canolbarth Cymru i adfer yn dilyn y pandemig? OQ57089
6. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi'r economi werdd yn Nwyrain De Cymru? OQ57088
7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd cyllideb Llywodraeth y DU yn ei chael ar ei rhaglen economaidd ym Mlaenau Gwent? OQ57118
8. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r diwydiant adeiladu am y sgiliau y bydd eu hangen ar gyfer ei weithlu yn y dyfodol? OQ57095
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Delyth Jewell.
1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gyfraddau COVID-19 yn Nwyrain De Cymru? OQ57110
2. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella pa mor gyflym y caiff cleifion eu rhyddfau o'r ysbyty yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg? OQ57087
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf—Gareth Davies.
Diolch, Llywydd. Byddwch chi'n falch o glywed fy mod i'n barod y tro yma. Yn dilyn ymlaen o gwestiwn fy nghyfaill Delyth Jewell ynghynt—
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl sydd â chlefydau awto-imiwn? OQ57098
5. A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael y cyflog byw go iawn? OQ57108
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at ddeintyddion y GIG yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ57114
7. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o argaeledd gofal iechyd yn Nwyrain De Cymru? OQ57099
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sgrinio am ganser y coluddyn yng Nghymru? OQ57097
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Jeremy Miles.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiwn amserol, ac mae'r cwestiwn heddiw i'w ofyn gan Mabon ap Gwynfor a'i ateb gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Felly, Mabon ap Gwynfor.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar benderfyniad Llywodraeth Cymru i ganlso ffordd gyswllt Llanbedr yng Ngwynedd? TQ576
Hoffwn alw ar Tom Giffard, sy'n mynd i wneud datganiad 90 eiliad ar y Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Trais a Bwlio yn yr Ysgol, gan gynnwys seiberfwlio.
Yr eitem nesaf yw eitem 6, y ddadl ar y ddeiseb P-05-912, 'Cynorthwyo teuluoedd sy'n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac annisgwyl'. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i gyflwyno'r cynnig....
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griifths, a gwelliant 2 yn enw Siân Gwenllian. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, felly, ac mae'r bleidlais gyntaf heddiw ar gynnig yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig ar adferiad gwyrdd, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn...
Felly, yr eitem nesaf fydd y ddadl fer, ac os wnaiff pawb sy'n gadael y Siambr adael y Siambr yn dawel, ac wedyn fe wnaf i ofyn i Rhun ap Iorwerth i gyflwyno'r ddadl yn ei enw ef. Rhun ap Iorwerth.
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd cyllideb ddiweddar Llywodraeth y DU yn ei chael ar economi Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am frechu pobl ifanc 12 i 15 oed yn erbyn COVID-19?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cyfleu'r canllawiau COVID-19 diweddaraf i gartrefi gofal?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia