Part of the debate – Senedd Cymru am 6:15 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Diolch, Llywydd dros dro. Diolch am gael siarad heno, a diolch iti, Rhun, am ddod â'r pwnc yma gerbron. Dwi wedi cael trafodaeth yn ddiweddar gyda Tom Davies o'r Children's Society, ac yn ystod y cyfarfod fe esboniodd o ychydig am y gwaith da maen nhw'n ei wneud a'r gwaith da sy'n cael ei wneud yn y maes yma, a'r gwaith sy'n cael ei wneud i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc. Roedd hefyd yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn ystyried rhai argymhellion.