Part of the debate – Senedd Cymru am 6:02 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'r ddadl fer yma yn deillio o sgwrs ges i efo etholwr ifanc ychydig wythnosau yn ôl. Mi wnaeth o fy ysgogi i i chwilio am ffyrdd newydd o annog trafodaeth am iechyd meddwl, ac yn benodol am sut a lle mae pobl ifanc yn gallu troi am help, a dwi'n falch bod nifer o Aelodau wedi cael eu hysgogi i fod eisiau cyfrannu heddiw, a dwi'n cytuno i roi amser i glywed cyfraniadau gan Mabon ap Gwynfor, gan Peredur Owen Griffiths a gan Jack Sargeant.
Ond nôl at y sgwrs yna ges i yn ddiweddar; efo Gareth rôn i yn siarad. Mab fferm o Ynys Môn ydy Gareth, myfyriwr sy'n astudio'r gyfraith; dyn ifanc galluog, huawdl, hyderus; dyfodol disglair o'i flaen o, does gen i ddim amheuaeth am hynny. Ond fel cymaint o'i gyfoedion o, mae Gareth wedi profi heriau efo'i iechyd meddwl. Nid profiad gwael personol sydd gan Gareth o fynd i chwilio am help; nid dyna sydd yn ei yrru fo. Mi gafodd o gefnogaeth ragorol, meddai fo, gan ei feddyg teulu, ond mae o'n gwybod am eraill sydd ddim wedi bod mor ffodus i gael yr un lefel o gefnogaeth. Ac fel dwi'n dweud, mae Gareth yn ddyn ifanc hyderus, digon hyderus i e-bostio ei Aelod o'r Senedd i gael sgwrs a'i lobïo fo, a dwi mor falch ei fod o wedi gwneud. Ond prin efallai ydy'r bobl sy'n ddigon hyderus i wneud hynny, ac yn allweddol, o bosib, prin fyddai pobl sy'n dioddef problemau iechyd meddwl fyddai yn barod i wneud hynny pan fyddan nhw'n teimlo'n fregus.
Dwi'n credu ein bod mewn lle gwell y dyddiau yma o ran parodrwydd i gydnabod problemau iechyd meddwl. Doedd iechyd meddwl ddim yn rhywbeth roedden ni'n siarad amdano fo; roedd o'n dabŵ, bron iawn. Dioddef yn dawel oedd cymaint o bobl yn ei wneud, a dwi yn credu bod pobl—yn cynnwys pobl ifanc—yn fwy parod i gyfaddef rŵan bod yna rywbeth o'i le. Mi fydd rhai yn dioddef problemau dwys, wrth gwrs, problemau acíwt; mi fues i yn dyst i hynny ymhlith pobl a oedd yn agos iawn ataf i pan oeddwn i'n ddyn ifanc—fy nghyflwyniad i i realiti iechyd meddwl oedd hynny. I'r rhan fwyaf, mae'r broblem yn dechrau yn fach, efallai. Dwi'n siŵr ein bod ni i gyd, bob un ohonon ni, yn gallu dweud weithiau ein bod ni'n teimlo straen, neu'n teimlo'n isel, neu'n teimlo pryder, a dwi'n siŵr bod llawer ohonon ni yn gallu troi at ein coping mechanisms ein hunain—ffyrdd i ymateb ein hunain pan dydy pethau ddim cweit yn iawn.
Ond mi fydd llawer iawn o bobl angen ychydig bach o help—llawer o bobl ifanc angen rhywun i'w cefnogi nhw, help a all, o'i gynnig yn ddigon buan, yn y lle iawn, atal problem rhag tyfu yn fwy, ac atal problem iechyd meddwl rhag cael effaith dros gyfnod hir ar fywyd a pherson ifanc.
Pwrpas y ddadl yma heddiw ydy gofyn i bobl ifanc ein helpu ni fel Senedd, a thrwy hynny helpu Llywodraeth Cymru i ddeall eu profiadau nhw. Ar fy llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i, dwi'n rhannu holiadur i bobl ifanc, i'w gwahodd nhw i rannu eu profiad o drio cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl. Dwi'n gobeithio y bydd Aelodau eraill yma yn barod i wneud hefyd, ac mi wnawn ni rannu'r linc i'r holiadur efo chi i gyd, wrth gwrs. Mi ydw i wedi bod mewn cysylltiad efo nifer o fudiadau sy'n gweithio yn y maes iechyd meddwl, ac mi fyddwn ni'n rhannu'r holiadur mor eang ag y gallwn ni drwyddyn nhw, ac efo nhw, drwy fudiadau sy'n cynrychioli pobl ifanc yng Nghymru.