Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Dros y degawd diwethaf, mae rhaglen Twf Swyddi Cymru wedi helpu mwy na 19,000 o bobl ifanc i gamu i fyd gwaith, i gael swydd dda ac i ddechrau adeiladu dyfodol. Ac yn awr, bydd Twf Swyddi Cymru + Mwy yn creu'r cyfleoedd hynny i newid bywydau pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. A dim ond y rhan gyntaf o warant Llafur Cymru i bobl ifanc yw hynny, wrth gwrs—ein haddewid a'n hymrwymiad i bob unigolyn ifanc yng Nghymru. Felly, cyn ei chyflwyno y flwyddyn nesaf, Weinidog, pa gymorth sydd ar gael i helpu darparwyr i addasu prentisiaethau a hyfforddeiaethau presennol er mwyn cyflawni'r rhaglen newydd honno?