Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 3 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 1:51, 3 Tachwedd 2021

Diolch, Llywydd. Dros hanner tymor, bu amgueddfeydd ledled Cymru yn cymryd rhan yng ngŵyl amgueddfeydd Cymru. Mae'r ŵyl yn gyfle i ddathlu y rôl hanfodol mae amgueddfeydd o bob maint a math yn eu chwarae a'r effaith gadarnhaol maent yn eu cael mewn cymaint o ffyrdd gwahanol, gan gynnwys ar ein heconomi. Serch hynny, fel dengys adroddiad diweddar gan gymdeithas amgueddfeydd Prydain, y Museums Association, dros y ddegawd diwethaf, mae gwariant awdurdodau lleol ar amgueddfeydd ac orielau yng Nghymru wedi gostwng 31 y cant, gan adlewyrchu faint y mae cyllidebau awdurdodau lleol wedi crebachu o ran yr hyn maent yn medru ei fuddsoddi mewn gwasanaethau nad ydynt yn statudol.

Os bydd y duedd hon yn parhau, yna mae posibilrwydd cryf y bydd amgueddfeydd yng Nghymru yn cau ac y bydd rhaid lleihau ymhellach gwasanaethau neu oriau agor gan gael effaith negyddol ar yr economi leol, ein cynnig i dwristiaid, ynghyd ag iechyd a lles defnyddwyr a'r holl brosiectau gwych a phellgyrhaeddol maent yn eu cyflawni fel sector. Pa gamau sydd yn cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu amgueddfeydd lleol ar ôl degawd o lymder?