Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Mae ein cenhadaeth i gryfhau ac ailadeiladu'r economi yn nodi ein dull ar gyfer yr economi, gan gynorthwyo unigolion, busnesau a chymunedau i lwyddo a ffynnu. Mae'r prif swyddogion rhanbarthol a'u timau wedi'u sefydlu ac mae ganddynt fwy o ffocws ac ymgysylltiad â model rhanbarthol o ddatblygu economaidd. Rydym hefyd, wrth gwrs, yn gweithio gyda phartneriaid ar fargen dwf canolbarth Cymru.