Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 3 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 1:54, 3 Tachwedd 2021

Diolch, Dirprwy Weinidog. Ond, nid peth newydd mo'r heriau sy'n wynebu amgueddfeydd lleol, ac ers nifer o flynyddoedd rŵan rydyn ni wedi clywed geiriau gan Weinidogion ond ddim wedi gweld gweithredu. Yn wir, wedi'r cyfan, oherwydd pryderon am y sector, fe gomisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad o amgueddfeydd lleol yn 2015. Nododd yr adolygiad nad oedd gan amgueddfeydd lleol adnoddau na chapasiti, ac ymrwymodd y Gweinidog ar y pryd, Ken Skates, y byddai ei swyddogion yn archwilio'r cyfleoedd a gyflwynir gan Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol ar gyfer cefnogi a datblygu amgueddfeydd. Pam nad yw Llywodraeth Cymru, felly, dal heb, eto, weithredu argymhellion eu hadolygiad eu hunain yn llawn? A allwch chi ddarparu amserlen o ran pryd y cânt eu gweithredu neu ymhelaethu o ran pam y penderfynwyd peidio eu gweithredu?