Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Y mis diwethaf, cyhoeddodd cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf y byddent yn gweithio gyda darparwyr gofal cymdeithasol annibynnol i'w helpu i gael gafael ar gyllid o dan gronfa adfer gofal cymdeithasol Llywodraeth Cymru, a hynny er mwyn iddynt allu darparu'r cyflog byw go iawn i'r staff gofal cymdeithasol y maent yn eu cyflogi. Wrth edrych ymlaen at gyhoeddiadau pellach ynghylch cynlluniau Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr holl staff gofal cymdeithasol yn cael y cyflog byw go iawn, pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda phartneriaid llywodraeth leol yn y cyfamser i'w hannog i roi camau rhagweithiol tebyg ar waith a sicrhau bod ein staff gofal cymdeithasol amhrisiadwy yn cael y cyflogau teg y maent yn eu haeddu?