Gofal Iechyd yn Nwyrain De Cymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 3 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:02, 3 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Fel pob rhan o'r GIG yng Nghymru, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan dan bwysau eithafol ar hyn o bryd wrth iddynt ymdopi â'r nifer uchaf erioed o achosion o COVID. Er gwaethaf y cyd-destun presennol, maent hefyd yn parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol ac allweddol, a lle bo modd, yn mynd i'r afael â'r ôl-groniad sydd wedi tyfu yn ystod y pandemig.