Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw. Rydym wedi ymrwymo yn ein rhaglen lywodraethu i sicrhau bod pob gweithiwr gofal cymdeithasol yn cael y cyflog byw go iawn, a bydd hwnnw'n ymarfer drud. Os oes angen arian er mwyn iddo gael ei gyflawni, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu'r arian hwnnw, ond nid oes gennym amcangyfrif eto o faint fydd hynny, oherwydd rydym yn astudio'r hyn y mae'r fforwm gwaith gofal cymdeithasol yn mynd i'w ddweud. Ac mae materion cymhleth iawn i'w hystyried, megis sut y diffiniwch weithiwr gofal cymdeithasol, sut i ymdrin â gwahaniaethau. Felly, mae'n sefyllfa gymhleth, ond diolch i'r Aelod am ei gefnogaeth i'r polisi hwn.