Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Diolch, Gadeirydd. Hoffwn ddechrau drwy ychwanegu fy nghefnogaeth i'r sylwadau y mae fy nghyd-Aelod, Jack Sargeant, wedi'u gwneud wrth agor y ddadl hon a diolch hefyd i'r holl unigolion a theuluoedd sydd wedi ymgyrchu'n ddiflino dros y blynyddoedd i ddod â'r mater hwn i'r amlwg a rhoi'r sylw angenrheidiol iddo.
Drwy gydol y broses o ddod â'r ddeiseb hon i ddadl, mae llawer o bobl wedi rhannu eu profiadau personol a phoenus eu hunain, ac er y bydd hyn wedi bod yn anodd iawn iddynt, maent wedi gwneud hynny yn y gobaith y gellir dysgu gwersi ac y gall teuluoedd sy'n colli plant a phobl ifanc yn sydyn gael y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt. Yn anffodus, nid yw hyn bob amser yn wir. Nid oes gennyf amheuaeth na allwn i gyd gytuno bod galar yn effeithio ar bawb yn wahanol ac y gall weithiau fod yn fisoedd neu hyd yn oed yn flynyddoedd cyn i wir effaith a chanlyniadau profiad rhywun daro gartref mewn gwirionedd.
Gall galar hefyd fod yn ddechrau ar gylch o ymddygiad a all arwain at batrymau ymddygiad llawer mwy dinistriol, ac nid yw'n anghyffredin i deuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth drawmatig a sydyn chwalu, gan arwain at ganlyniadau pellach, yn anffodus. Gyda hyn mewn golwg, mae cymorth uniongyrchol yn hanfodol i helpu teuluoedd i oresgyn yr adegau cyntaf o alar, yn enwedig yn sgil colli plant a phobl ifanc, pan fydd y golled yn ymddangos mor annheg. Ond hyd yn oed os yw'r cymorth yn y dyddiau a'r wythnosau cynnar ar gael ac yn dda, rhaid inni gofio bod angen gwneud digon o waith dilynol i sicrhau nad yw pobl yn dilyn y llwybr anghywir yn y pen draw.
Mae Rhian Mannings ac eraill wedi gwneud gwaith gwirioneddol anhygoel ar sefydlu elusen 2 Wish, yn enwedig o ystyried yr amgylchiadau roeddent ynddynt, fel y mae fy nghyd-Aelod, Jack Sargeant, eisoes wedi nodi. Mae gallu cynnig cymorth ar unwaith o fewn oriau i farwolaeth sydyn a chynnig gwasanaeth cofleidiol wedyn sy'n addas i anghenion pawb yn unigryw ac yn rhywbeth y dylem fod yn falch o'i gefnogi. Mae llawer o sefydliadau ledled y Deyrnas Unedig yn ceisio cael gwasanaeth fel yr un a gynigir gan 2 Wish, a byddai cael cymorth gan Lywodraeth Cymru i allu ei ffurfioli ac ariannu'r gwasanaeth yn gam enfawr i helpu teuluoedd sy'n galaru.
Yr hyn y mae'r ddeiseb a gyflwynwyd, a'r ddadl hon yn y pen draw, yn ei gynrychioli yw newid diwylliannol o fewn y gwasanaeth iechyd i gydnabod yr angen am gymorth cyson i deuluoedd ac i staff gael hyfforddiant priodol i ymateb yn fwy greddfol i anghenion teuluoedd ar ôl marwolaeth sydyn plentyn neu rywun annwyl.
Yn anffodus, gwyddom nad yw arferion da yn gyson ar draws sefydliadau, ond mae angen inni anelu at sicrhau eu bod yn gyson. Yn rhy aml, gall pobl brofi salwch seiciatrig neu broblemau iechyd meddwl ar ôl profedigaeth am nad ydynt yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Mae i hyn oblygiadau mwy yn nes ymlaen wrth gwrs, pan fydd angen iddynt ddefnyddio gwasanaethau iechyd meddwl sydd eisoes o dan bwysau sylweddol.
Credaf fod angen inni hefyd gydnabod manteision diwylliant o ddysgu, fel bod dadansoddiad priodol yn cael ei wneud pan fydd pethau'n mynd o chwith, er mwyn inni ddeall sut y gallwn ei atal rhag digwydd eto. Heb os, mae elusennau fel 2 Wish wedi profi ein bod yn gallu gwneud pethau'n well, ond rhaid inni beidio â bod yn hunanfodlon. Mae angen inni werthfawrogi manteision cynorthwyo teuluoedd, rhieni a hyd yn oed ffrindiau'r rhai sydd wedi dioddef yn sgil colli plant a phobl ifanc yn sydyn, ac i gydnabod lle hynny'n ffurfiol o fewn y gwasanaeth iechyd drwy sicrhau ei fod yn cael ei gyllido'n briodol ac yn hirdymor. Nid yw ond yn iawn fod y ddadl bwysig hon yn digwydd, ac rwy'n datgan fy nghefnogaeth lwyr iddi. Diolch.