Part of the debate – Senedd Cymru am 4:26 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Diolch, Lywydd dros dro, a diolch i Jack am eich cyfraniad wrth agor y ddadl heddiw. Fel Aelod newydd o'r Senedd ac aelod newydd o'r Pwyllgor Deisebau, hoffwn ddechrau drwy ddweud pa mor bwysig yw deisebau, nid yn unig i ni fel Aelodau o'r Senedd, ond i drigolion sy'n byw ym mhob rhan o Gymru. Rydym—. Mae'n ddrwg gennyf, nid yn unig i ni fel Aelodau o'r Senedd, ond i drigolion sy'n byw ym mhob rhan o Gymru. Rydym yn siarad â'n hetholwyr ac yn eu cefnogi bob dydd, ond i mi deisebau yw'r ffordd orau o wybod beth sydd bwysicaf i'r bobl a gynrychiolwn yn y Siambr hon.
Denodd y ddeiseb dan sylw heddiw, 'Cynorthwyo teuluoedd sy'n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl', dros 5,500 o lofnodion, sy'n dangos cryfder aruthrol y teimlad, ac mae'n dyst i'r gwaith anhygoel a ddarparir gan yr elusen 2 Wish Upon A Star.
Hoffwn adleisio geiriau Jack Sargeant wrth dalu teyrnged i'r deisebydd, Rhian Mannings. Roeddwn yn ddigon ffodus i gyfarfod â Rhian pan ymwelodd â'r Senedd i drafod y ddeiseb. Roedd stori Rhian yn dorcalonnus. Mae cerdded allan i dywyllwch y nos heb gael cynnig cymorth yn deimlad na ddylai unrhyw deulu sydd newydd golli eu plentyn neu oedolyn ifanc orfod dioddef. Roedd ei chryfder a'i phenderfyniad yn gwneud imi deimlo'n ostyngedig iawn.
A hithau'n galaru, creodd Rhian yr elusen 2 Wish Upon A Star gyda'r nod o roi cymorth i unrhyw un yr effeithir arnynt gan farwolaeth sydyn ac annisgwyl plant a phobl ifanc 25 oed neu iau. Mae'n cymryd dewrder gwirioneddol i ddod o hyd i oleuni mewn tywyllwch o'r fath. Bu 2 Wish yn oleuni i Rhian, a diolch i'w gwaith diflino 2 Wish bellach yw'r goleuni i gymaint o deuluoedd eraill sydd wedi colli anwyliaid.
Rydym yn defnyddio'r gair 'cymorth' yn aml, a chredaf ein bod weithiau'n anghofio beth yn union yw cymorth a sut y mae'n teimlo, a'r effaith y mae'n ei chael ar y rhai sy'n ei dderbyn. Mae cymorth gan 2 Wish Upon A Star yn dechrau gyda'r cynnig uniongyrchol o flwch atgofion. Ac ar ôl cael cydsyniad y rhai sydd mewn galar, bydd 2 Wish yn eistedd gyda'r teuluoedd neu unigolion yn eu hystafell fyw, a bydd yn cadw mewn cysylltiad wythnosol nes y daw adeg pan na fydd angen y cymorth mwyach.
Gall yr elusen ddarparu'r pecyn cymorth amhrisiadwy hwn drwy weithio mewn partneriaeth â'r holl fyrddau iechyd, ysbytai, heddluoedd, crwneriaid a thimau iechyd meddwl ledled Cymru. Mae'n gwbl dorcalonnus fod rhai teuluoedd yn cael eu hamddifadu o'r gwasanaeth hwn ar hyn o bryd; nid yw'n deg. Ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw'r ddarpariaeth y mae 2 Wish yn ei chynnig, a'r gwahaniaeth y byddai nodau ac amcanion yr elusen, a amlinellir yn y llyfryn hwn, yn ei wneud i deuluoedd mewn profedigaeth ledled Cymru.
Ar ôl creu fy elusen fy hun, rwy'n deall pa mor anodd y gall fod i gael arian grant. Weithiau gall y pryder cyson o geisio dod o hyd i gyllid grant dynnu oddi wrth y ddarpariaeth rydych yn ceisio'i rhoi. Mae angen y cyllid y mae'n ei haeddu ar ddarpariaeth mor bwysig â'r un a gynigir gan 2 Wish, ac rwy'n annog y Gweinidog i roi ystyriaeth ddifrifol i gais y ddeiseb.