Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 3 Tachwedd 2021.
'Mae colli plentyn yn effeithio arnoch am byth, ac mae angen i deuluoedd wybod bod cymorth hirdymor ar gael i'w helpu drwy'r broses o alaru.'
Mae'r gallu i roi cymorth i holl aelodau'r teulu, gan gynnwys plant sydd wedi cael profedigaeth, yn hanfodol. Mae mor bwysig cydnabod hefyd, fel y mae 2 Wish yn ei wneud, fod yr angen am gymorth yn cynnwys aelodau o staff sy'n gweithio gyda theuluoedd, gan fod llawer ohonynt yn wynebu trallod a thrawma ar ôl bod yno ar adeg mor dorcalonnus i deuluoedd.
Roeddwn yn falch iawn ym mis Medi, ar Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd, o gael ymweld â phencadlys 2 Wish yn Llantrisant i drafod eu prosiect peilot profedigaeth yn sgil hunanladdiad yng Ngwent, un o dri phrosiect peilot profedigaeth yn sgil hunanladdiad yng Nghymru. Fel y gŵyr rhai o'r Aelodau yma eisoes, mae atal hunanladdiad, ac yn enwedig atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc, yn arbennig o bwysig i mi. Gwyddom fod pobl sydd mewn profedigaeth yn sgil hunanladdiad mewn llawer mwy o berygl o farw drwy hunanladdiad, felly mae cymorth profedigaeth yn sgil hunanladdiad yn flaenoriaeth allweddol i mi. Mae cymorth profedigaeth yn sgil hunanladdiad yn atal hunanladdiad ac yn achub bywydau. Mae 2 Wish wedi gweithio'n agos gyda Heddlu Gwent i gynnig cymorth ar unwaith i unrhyw un sy'n cael profedigaeth yn sgil hunanladdiad yng Ngwent, ac mae hynny'n ychwanegol at eu gwaith yn cefnogi teuluoedd ledled Cymru sydd wedi colli unigolyn ifanc yn sgil hunanladdiad. Felly, hoffwn gofnodi fy niolch i 2 Wish a Heddlu Gwent am eu gwaith hanfodol yn y maes hwn.
Rwyf am i bawb yng Nghymru sydd mewn profedigaeth wybod bod cymorth ar gael iddynt. Gyda hynny mewn golwg, ddydd Iau diwethaf, roeddwn yn falch o gyhoeddi lansiad y fframwaith cenedlaethol ar gyfer darparu gofal mewn profedigaeth yng Nghymru. Rwy'n cymeradwyo'r fframwaith hwn i'r Aelodau. Mae'n nodi ein gweledigaeth ar gyfer Cymru garedig lle mae gan bawb fynediad at ofal a chymorth profedigaeth o safon uchel i ddiwallu eu hanghenion yn effeithiol pan fydd ei angen arnynt. Rwy'n ddiolchgar i'r ystod eang o bartneriaid statudol a gwirfoddol sy'n gysylltiedig â'r gwaith o'i ddatblygu, gan gynnwys y rheini sydd wedi dioddef profedigaeth eu hunain.
Roedd y fframwaith drafft yn destun ymgynghoriad wyth wythnos yn gynharach eleni, ac amlinellodd rhai o'r ymatebwyr eu profiadau personol o brofedigaeth yn gyffredinol a phrofedigaeth yn ystod y pandemig. Hoffwn ddiolch i'r holl ymatebwyr am rannu eu profiadau gyda ni fel y gellir cynorthwyo eraill. Mae'r fframwaith yn gosod cyfrifoldebau ar fyrddau iechyd i gomisiynu gofal profedigaeth er mwyn diwallu anghenion eu poblogaethau. Yn benodol, mae'n nodi'r gofynion ar gyfer sefydlu safonau sylfaenol ac yn disgrifio sut y bydd Llywodraeth Cymru yn monitro'r safonau hyn, a gofynnir i gomisiynwyr adrodd ar eu perfformiad yn rheolaidd.
Gan droi yn awr at yr hyn y mae'r ddeiseb rydym yn ei hystyried heddiw yn gofyn amdano, rwy’n llwyr gydnabod yr angen i sicrhau bod llwybr atgyfeirio cyson a chlir ar gael ar unwaith i deuluoedd sy’n colli plentyn neu unigolyn ifanc ni waeth ble y maent yng Nghymru. Rwyf wedi ymrwymo, fel Dirprwy Weinidog, i sicrhau ein bod ni yng Nghymru yn cyflawni hynny. Felly, rwy'n ymrwymo i weithio gyda Rhian, ei sefydliad ac eraill ar y grŵp llywio cenedlaethol i roi safon ar waith sy'n canolbwyntio'n benodol ar ddarparu cymorth o'r fath. Bydd Rhian ac aelodau eraill o brofiad y grŵp yn hanfodol wrth ein cynorthwyo i lunio'r safon hon fel ei bod yn ddigon cadarn i nodi a yw byrddau iechyd yn cynnig y cymorth hwnnw'n rhagweithiol mewn ffordd gyson ledled Cymru. Rwy'n ymrwymo i'r Senedd heddiw hefyd y byddaf, fel Gweinidog, yn sicrhau bod y gwaith hwn yn mynd rhagddo ar fyrder. Rwy'n gobeithio bod Rhian, y bûm yn gweithio gyda hi ar y ddeiseb cyn iddi gyrraedd y Llywodraeth, yn fy adnabod yn ddigon da i wybod y byddaf yn cadw at fy ngair ar hyn.
Er mwyn cefnogi'r fframwaith profedigaeth newydd, byddwn hefyd yn sicrhau bod £420,000 ychwanegol ar gael i fyrddau iechyd yn 2022-23 a 2023-24 i helpu gyda chydgysylltu gwaith profedigaeth a gweithredu'r safonau profedigaeth. Byddwn yn monitro gweithrediad y safonau drwy fframwaith rheoli perfformiad Llywodraeth Cymru, a byddwn yn herio byrddau iechyd lle mae'n amlwg nad ydynt yn bodloni'r safonau. Yn amlwg, mae'n rhaid inni ddangos bod sefydliadau sy'n cynnig cymorth yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael yr adnoddau priodol, ac ochr yn ochr â'r fframwaith, cyhoeddais grant cymorth profedigaeth o £1 filiwn i'n partneriaid yn y trydydd sector ar gyfer y tair blynedd nesaf. Rwyf wedi gofyn i'r meini prawf ar gyfer y grant annog cynigion gan y sefydliadau sy'n gallu cynnig y cymorth ar unwaith y mae'r ddeiseb yn galw amdano. Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i ymestyn a dyfnhau'r cymorth hwnnw ledled Cymru, ac yn helpu i lenwi'r bylchau sy'n bodoli yn y ddarpariaeth bresennol.
Mae cefnogi'r aelodau o'n cymuned sydd mewn profedigaeth yn gyfrifoldeb i bob un ohonom mewn sawl ffordd, a hoffwn dalu teyrnged i bawb sy'n ymwneud â chynorthwyo a gofalu am yr holl bobl mewn profedigaeth yng Nghymru. Hoffwn roi sicrwydd i chi hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod unrhyw un yng Nghymru sydd angen mynediad at ofal a chymorth profedigaeth o ansawdd yn ei gael. Hoffwn gloi heddiw drwy ddiolch eto i'r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno'r ddadl hon a thrwy ddiolch o galon i Rhian ac i 2 Wish am bopeth y maent yn parhau i'w wneud i gynorthwyo teuluoedd sy'n wynebu'r golled annirnadwy o golli plentyn neu unigolyn ifanc yn eu bywydau. Diolch yn fawr.