Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Wrth i COP26 ddechrau, mae tua 70 y cant o economi'r byd bellach wedi ymrwymo i dargedau sero-net, i fyny o lai na 30 y cant pan ymgymerodd y DU â'r gwaith o lywyddu'r gynhadledd hon. Mae Llywodraeth Cymru, er gwaethaf eu datganiadau i'r gwrthwyneb, yn cymryd sylw. Fodd bynnag, fel gwlad ddatganoledig, mae bellach yn ddyletswydd ar y Llywodraeth hon i gefnogi nodau ac uchelgeisiau ar ddatgarboneiddio a hybu cynhyrchiant ynni glân. Dyna pam fy mod yn falch iawn o gyflwyno'r cynnig heddiw i'w drafod, fel y gallwn ailffocysu ymdrechion yma yng Nghymru, yn enwedig gan fod cyllideb garbon 2 yr wythnos diwethaf wedi datgelu rhai gwendidau yn ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at fynd i'r afael â'r broblem sy'n diffinio ein hoes. Yn wir, er y tynnwyd sylw at ddatblygiadau ynni sy'n eiddo lleol i sicrhau elw economaidd i Gymru, mewn gwirionedd, rydych wedi cymryd cam mawr tuag yn ôl drwy dorri rhyddhad ardrethi busnes ar gynlluniau ynni dŵr sy'n eiddo preifat. Dylem fod yn grymuso ein ceidwaid tir a'n ffermwyr i helpu gyda'n hadferiad gwyrdd. Pam, felly, na chafwyd datganiad gan y Gweinidog materion gwledig yr wythnos hon?
Mae'n amlwg fod angen i Lywodraeth Cymru sefydlu cronfa fuddsoddi mewn ynni morol i Gymru gyfan i brynu ecwiti mewn prosiectau ynni morol, gan gynnwys ynni dŵr ar raddfa fach, i gynhyrchu ynni adnewyddadwy. Bum mis ar ôl cau'r ymgynghoriad ar gynllun dychwelyd ernes, sylwaf fod Llywodraeth Cymru yn dal i adolygu'r ymatebion a ddaeth i law, a'n bod yn dal i fod ar y cam ymgynghori ar gyfer gwahardd naw yn unig o eitemau plastig untro.
Am y tro cyntaf o fewn cof, gallaf ddweud yn onest fy mod yn cytuno ag AS Llafur. Chwarae teg i Fleur Anderson am ddal i fyny gyda'r Ceidwadwyr Cymreig a'n galwadau am weithredu ar hancesi gwlyb, yn enwedig y rhai sy'n cynnwys plastig. Yn ogystal â chreu llanast ar welyau afonydd, mae Dŵr Cymru'n dweud eu bod yn ymdrin â thua 2,000 o garthffosydd wedi'u blocio bob mis yng Nghymru. Y prif achosion yw ffyn cotwm a hancesi gwlyb sy'n cynnwys plastig. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gwrando nid yn unig arnom ni ar y meinciau hyn, ond ar eu Haelodau Seneddol Llafur eu hunain, ac yn gweithredu, yma yng Nghymru.
Roedd lefelau cyfranogiad mewn cynllun dychwelyd ernes ar garreg y drws a gynhaliwyd yng Nghonwy rhwng mis Mehefin a mis Gorffennaf yn 97 y cant. Felly, dengys hyn fod y cyhoedd yn awyddus i weithredu. Ac ni allaf anwybyddu addewid arweinyddiaeth personol y Prif Weinidog i basio Deddf aer glân yn y pumed Senedd. Felly, dyma ni yn y chweched Senedd bellach, ac mae'r Aelodau'n dal i ofyn ac yn galw am gyflwyno'r ddeddfwriaeth honno.
Fel y mae ein cynnig yn dweud yn glir, er mwyn helpu ein hadferiad gwyrdd, mae angen inni adolygu rheolau cynllunio a diweddaru'r ddeddfwriaeth bresennol. Roedd tystiolaeth gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru yn nodi'n glir fod cyfanswm y gwariant ar wasanaethau cynllunio wedi gostwng 50 y cant yng Nghymru ers 2009. Mae hyn yn cael effaith fawr, yn enwedig ar feysydd arbenigol o amodau cynllunio, megis draenio cynaliadwy—rwy'n siŵr fod fy nghynghorwyr yn gwybod beth yw SuDS—ond mae bellach yn drychineb pur i rai awdurdodau lleol, o ystyried y pwyslais a roddir arnynt gan y Llywodraeth hon.
Rhaid rhoi ystyriaeth gynllunio deg hefyd i gynorthwyo rhwydwaith trafnidiaeth werdd. Ar 1,002 o bwyntiau gwefru, dim ond 3.8 y cant o gyfanswm pwyntiau gwefru'r DU sydd gan Gymru. Yr wythnos hon, siaradais â'n gweithredwyr tacsis, sydd bellach yn gofyn a fydd unrhyw gymorth Llywodraeth Cymru iddynt tuag at gerbydau trydan neu gerbydau dim allyriadau. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed y dylai pob bws, yn ogystal â thacsis a cherbydau hurio preifat, fod yn gerbydau dim allyriadau erbyn 2028. Er fy mod yn ymwybodol fod £50 miliwn wedi'i neilltuo gan Lywodraeth y DU i gefnogi'r newid hwn, os yw Llywodraeth Cymru am gyrraedd ei thargedau a diogelu swyddi, eglurodd rhanddeiliaid wrth ein Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith fod yn rhaid gweithredu ar gyllid yn awr. Er mwyn cydnabod y sgiliau sydd eu hangen i fwrw ymlaen â'r agenda werdd, dylai Llywodraeth Cymru weithredu eto—yn awr—i uwchsgilio gweithlu Cymru drwy wireddu addewid y Ceidwadwyr Cymreig i ddarparu 150,000 o brentisiaethau newydd, gan roi sylw i gyngor ColegauCymru y dylid arallgyfeirio'r gweithlu gwyrdd.
Rydym yn awyddus iawn hefyd i weld ymdrechion i greu swyddi morol newydd, gan na fanteisiwyd ar y potensial. Mae ardal cynllun morol Cymru yn cynnwys tua 32,000 km o fôr, ond dim ond 20,779 km o dir sydd gan Gymru, ac rwy'n cydnabod ac yn cymeradwyo fy nghyd-Aelod, Joyce Watson, oherwydd roedd Joyce ar y pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith cyn i mi ddod yn aelod ohono, ac fe wnaethoch chi hyrwyddo hyn hefyd, yn briodol, a'r potensial i gael swyddi a gweithredu drwy sefydlu prosiectau ymchwil megis plannu dolydd morwellt, y gwyddys eu bod yn dal carbon hyd at 35 gwaith yn gyflymach na fforestydd glaw trofannol. Felly, mae'n amlwg yn syniad da.
Daw hyn â mi at yr angen i weithredu targedau bioamrywiaeth sy'n gyfreithiol rwymol yn awr, gan gynnwys gosod y fenter 30x30 ar sail statudol.
Mae'r RSPB, y Gymdeithas Cadwraeth Forol a sefydliadau eraill i gyd wedi rhoi o'u hamser fel tystion i'n pwyllgor i egluro'r angen i weithredu cyn i drafodaethau cam 2 y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol COP15 ddod i ben yn 2022. Eglurodd adroddiad Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd 3 gan Bwyllgor Newid Hinsawdd y DU fod angen cymhellol am well monitro a gwyliadwriaeth. Mae angen eglurhad ar y Senedd hon a'i Haelodau o'r camau rydych yn eu cymryd i gynyddu'r gwaith o fonitro data ar bethau fel iechyd a gwytnwch pridd a'i effaith ar fioamrywiaeth, rhywogaethau a'u cynefinoedd. A chydag arian yn cael ei fuddsoddi yn y gwaith hwn, pa swyddi cadwraeth hirdymor a gaiff eu creu o ganlyniad?
Ddirprwy Lywydd, fel y bydd y ddadl heddiw'n dangos, mae momentwm trawsbleidiol o blaid gweithredu ar aer glân, plastigau untro, bioamrywiaeth, cadwraeth a llawer o bethau eraill. Felly, pam ein bod yn aros? Pam yr oedi gan y Gweinidog a Llywodraeth Cymru? Mae arnaf ofn na all y byd, ein cymdeithas a'r hinsawdd fforddio rhoi mwy o amser i Lywodraeth Cymru a'r Prif Weinidog ar hyn. Dim mwy o aer poeth: gadewch inni fwrw ymlaen, a gadewch inni weld gweithredu'n digwydd, os gwelwch yn dda. Diolch.