Part of the debate – Senedd Cymru am 5:24 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Rwy'n gweld trywydd eich dadl, ond gyda phob parch i'r biliwnyddion hyn, a ydych chi erioed wedi cyfrif faint o swyddi y maent yn eu darparu? Faint o bobl sy'n bwydo oddi ar y gadwyn fwyd gan biliwnyddion? Nid yw mor syml â, 'O, y biliwnyddion cyfoethog hyn.' Mae unrhyw un yn gwybod, os edrychwch arno go iawn, fod y biliwnyddion hyn, fel rydych chi'n eu disgrifio fel—. Edrychwch ar faint o swyddi y maent yn eu darparu mewn gwirionedd.