7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Adferiad gwyrdd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 3 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 5:40, 3 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Dywedodd Janet Finch-Saunders fod angen inni weithredu drwy ariannu'r agenda werdd, sgiliau a datgarboneiddio bysiau, ond Lywydd dros dro, yr wythnos diwethaf mewn cyllideb pan na chrybwyllwyd yr ymadrodd 'newid hinsawdd' unwaith, gwelsom ein cyllideb gyfalaf yn cael ei thorri. Ar ddiwedd tymor y Senedd hon, fe fydd 11 y cant yn is nag ydyw heddiw; £3 biliwn yn llai i economi Cymru na phe bai'r Ceidwadwyr, ers iddynt gael eu hethol, wedi cadw gwariant yn unol â'r twf yn yr economi. Ni allwn fuddsoddi arian os nad yw'r arian hwnnw gennym. Mae'r arian rydym yn ei wario ar brentisiaethau a chymorth adeiladu ar hyn o bryd yn cael ei gyllido gan yr UE. Dywedodd y Llywodraeth hon wrthym na fyddem geiniog ar ein colled drwy adael yr UE. Eleni, pe baem yn dal o fewn yr Undeb Ewropeaidd, byddem yn disgwyl £375 miliwn, ac mae'r Llywodraeth Geidwadol hon wedi rhoi rhan fach iawn o hynny inni. Felly, nid wyf yn deall sut y mae'r Ceidwadwyr yn disgwyl i ni ariannu'r pethau y maent yn mynnu ein bod yn eu gwneud gan dorri ein harian ar yr un pryd.

Dywedodd Janet Finch-Saunders unwaith eto nad ydym yn gweithredu ar wahardd plastigau untro, ond gan fod y Llywodraeth hon wedi pasio Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, nid ydym yn glir pa bwerau sydd gennym i weithredu. Felly, unwaith eto, maent yn ein beirniadu am beidio â gweithredu, ond mae eu Llywodraeth eu hunain yn rhoi camau ar waith sy'n ein hatal rhag gweithredu.

Cafwyd rhagrith pellach gan y Ceidwadwyr ar danwydd ffosil. Clywsom Brif Weinidog y DU yn dweud yn y COP yn Glasgow fod angen i'r Cenhedloedd Unedig gefnu ar lo, ond dyna'r gwrthwyneb i'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud. Polisi presennol y Llywodraeth yw bod dyletswydd ar yr Awdurdod Glo i gefnogi parhau i gloddio am danwydd ffosil. Nid dyna'r hyn rydym am ei wneud yng Nghymru; mae gennym bolisi clir iawn i roi'r gorau i ddefnyddio tanwydd ffosil. Oni bai bod Llywodraeth y DU yn cytuno i'n cais i ganslo trwydded a roddwyd yn 1996 yn Aberpergwm, caiff tua 40 miliwn tunnell o lo ei godi o'r pwll glo hwn erbyn 2039—100 miliwn tunnell o garbon deuocsid. Rydym am gadw'r glo yn y ddaear, ond mae Llywodraeth y DU, oherwydd y pwerau sydd ar waith, yn bygwth gadael i'r glo gael ei godi yn groes i'n dymuniadau ni. Nawr, dywedodd yr Awdurdod Glo wrthym eu bod yn bwriadu cytuno i'n cais—i 'ddadamodi' y drwydded hon, fel y'i gelwir—ac rydym wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol i ofyn iddo ymyrryd. Felly, os yw'r Ceidwadwyr yn y Siambr hon yn gwbl ddiffuant ynglŷn â'r angen i weithredu, efallai y gallent ein cefnogi drwy ysgrifennu at Kwasi Kwarteng, i ofyn iddo atal y glo hwn rhag cael ei gloddio o bridd Cymru, oherwydd nid ydym am iddo ddigwydd, a'r unig reswm y gallai ddigwydd yw oherwydd eu diffyg gweithredu a'u polisïau hwy.

Felly, dyna ddigon o'r rhagrith hwn. Rydym am gydweithio â'n cydweithwyr yn rhannau eraill y DU, ac rydym yn ymdrechu'n galed iawn i wneud hynny. Rydym wedi cyfarfod drwy gydol yr haf â Gweinidogion a swyddogion y DU, wrth inni lunio ein cynllun sero-net ochr yn ochr â'u cynllun sero-net hwythau. Yn wir, dywedodd Gweinidog Llywodraeth y DU wrthym y byddent yn rhannu eu cynlluniau gyda ni ymlaen llaw fel y gallem gydweithio. A wnaethant eu rhannu? Naddo, siŵr iawn. Ni welsom eu cynllun tan hanner nos ar y diwrnod y cafodd ei gyhoeddi. Nawr, sut y mae hynny'n gydweithio? Nid yw'n gydweithio; geiriau gwag ydyw.

Serch hynny, rydym yn gwneud ein gorau i gydweithio ar y cynllun dychwelyd ernes, ac er i Janet Finch-Saunders ddweud nad oedd unrhyw weithredu, rydym yn bwriadu ac yn gobeithio cyflwyno rheoliadau ar gyfer y cynllun, i weithredu'r cynllun, yn ystod haf 2022. Soniodd Janet Finch-Saunders am gynllun yng Nghonwy—cynllun rhagorol. Methodd sôn ei fod yn gynllun mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac wedi'i ariannu gennym. Ac ymwelais â'r cwmni technoleg Polytag yng Nglannau Dyfrdwy y mis diwethaf a gweld y gwaith eithriadol y maent wedi bod yn ei wneud gyda Chonwy ar gynllun dychwelyd ernes ddigidol. Credaf fod potensial gwirioneddol i hynny, ac rwy'n canmol Conwy am eu gwaith gyda ni a Polytag ar hynny.

Rydym yn cyflawni ein cynllun aer glân, sy'n cynnwys datblygu Bil aer glân, a fydd yn sefydlu cyfundrefn fwy rhagweithiol ar gyfer gwella ansawdd aer gan ystyried canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ar bennu targedau. Newydd gael eu cyhoeddi y mae'r rhain, Lywydd dros dro, ac mae'n cymryd amser i ni a'n swyddogion eu hasesu a'u cynnwys yn y cynllun rydym yn ei ddatblygu. Ond wrth gwrs, nid ydym yn aros am Fil cyn gweithredu, rydym yn gweithredu yn awr. Ar ddechrau tymor diwethaf y Senedd, roedd Cymru'n gwario £5 miliwn y flwyddyn ar gynlluniau teithio llesol—cynlluniau i gael pobl allan o geir, a defnyddio trafnidiaeth lân ar gyfer teithiau lleol. Ar hyn o bryd, rydym yn gwario £75 miliwn bob blwyddyn ar gynlluniau. Gwyddom fod 10 y cant o deithiau ceir o dan filltir o bellter, a bod hanner y teithiau ceir o dan bum milltir o bellter. Gellid cael teithio llesol yn lle llawer o'r rhain. Rydym yn buddsoddi. Nid ydym yn aros am Ddeddf aer glân, rydym yn gweithredu yn awr.

Datblygir ein cynllun gweithredu sgiliau Cymru Sero Net i gynorthwyo gweithwyr i feithrin y sgiliau sydd eu hangen arnynt i chwarae rhan yn y gwaith o gyflawni newid teg sy'n lleihau allyriadau tra'n hyrwyddo swyddi sy'n talu'n dda. Fel rhan o'n hymrwymiad i ynni adnewyddadwy, rydym yn gweithio i sefydlu Cymru fel canolfan ar gyfer technolegau ynni morol sy'n datblygu, ac rydym wedi sefydlu rhaglen ynni morol i gyflawni'r ymrwymiad hwn. Ond er mwyn parhau i gefnogi'r diwydiant ar y lefel y credaf y byddai pawb yn y Senedd am ei gweld, rhaid i Lywodraeth y DU roi'r arian y byddai'r UE wedi ei roi yn y gorffennol yn llawn, arian sydd wedi bod mor allweddol i sicrhau'r cynnydd a wnaethom hyd yma. Ar hyn o bryd, rwy'n gweithio gydag arbenigwyr yn y diwydiant ar astudiaeth ddofn o rwystrau i ynni adnewyddadwy. Cyfarfûm eto y bore yma, cyfarfûm â diwydiant yn gynharach yr wythnos hon, ac rydym yn gwneud cynnydd da ar nodi'r camau y gallwn eu cymryd yn y tymor byr i wneud cynnydd. 

Lywydd dros dro, mae newid hinsawdd yn effeithio ar bob agwedd ar ein bywydau a phob cwr o Gymru. Mae hwn yn gyfnod heriol ac mae dewisiadau anodd o'n blaenau, ond mae gobaith, ac fel y dywedodd Delyth Jewell, mae gennym amser o hyd. Rydym yn rhoi camau ymarferol ar waith gyda'n gilydd, a gallwn wneud hynny eto, i sicrhau bod yr adferiad gwyrdd a newid i Gymru sero-net yn newid teg—un nad yw'n gadael neb ar ôl, gan sicrhau nad yw cost newid yn disgyn ar ysgwyddau'r tlotaf mewn cymdeithas. Ac mae ein cynllun Sero Net Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi 123 o bolisïau ac argymhellion a fydd yn cyflawni, yn ystod y pum mlynedd nesaf, ein targedau newid hinsawdd i'n rhoi ar y trywydd y mae angen inni fod arno i gyrraedd sero-net erbyn 2050. Mae angen i bob un ohonom wneud yn well, chwarae ein rhan ac arwain y ffordd tuag at Gymru werddach a chryfach. Ond ni wnaiff geiriau hynny, Ddirprwy Lywydd. Rhaid inni eu dilyn â gweithredoedd, ac mae arnaf ofn ein bod wedi clywed llwyth o ragrith pur nad yw o fudd i neb gan y Ceidwadwyr y prynhawn yma.