Part of the debate – Senedd Cymru am 5:48 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Diolch yn fawr, Lywydd dros dro. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma, ond rwy'n teimlo braidd yn rhwystredig, fel y mae'r Aelod dros Fynwy, o gofio'r angen am gydweithrediad, partneriaeth a gwaith tîm i fynd i'r afael â newid a sicrhau economi werdd, fod y cynnig a gyflwynwn, sy'n ceisio gwneud yr holl bethau hynny gyda Llywodraeth Cymru er lles ein gwlad, yn cael ei ddiystyru a'i ddisodli gan gyfle arall eto i ladd ar Lywodraeth y DU. Gwnaeth Carolyn Thomas waith rhagorol o hynny yn ei chyfraniad y prynhawn yma. Yn yr ychydig fisoedd y bûm yn y Siambr hon, mae wedi bod yn gwbl amlwg, pan ddywed Llywodraeth Cymru, 'Nid oes monopoli ar syniadau da', yr hyn y maent yn ei olygu mewn gwirionedd yw, 'Byddwn yn anwybyddu'r syniadau nad ydynt yn syniadau gennym ni.'
Rydym ni ar y meinciau hyn yn ceisio gweithio i wella'r sefyllfa. Rwy'n edrych drwy'r cynnig yn enw Darren Millar o Orllewin Clwyd—afresymol? Nac ydy, nid oes dim yma sy'n afresymol. Yn wir, credaf ei fod yn gynnig cwbl synhwyrol sy'n ceisio meithrin consensws ar un o faterion pwysicaf ein hoes. Felly, pam na allwn geisio gweithio gyda'n gilydd? Rwy'n credu bod y ffaith bod y Dirprwy Weinidog yn dweud ein bod yn haerllug yn gwbl anadeiladol yn y math o ddadl a thrafodaeth y ceisiwn ei chael ar fater mor bwysig y prynhawn yma.
Diolch byth, mae cydweithredu eisoes yn digwydd ledled Cymru fodd bynnag, ac mae gennym enghreifftiau o elusennau, sefydliadau, busnesau a phrifysgolion yn dod at ei gilydd i wneud yr hyn a allant gydag atebion arloesol. Rydym wedi clywed am rai o'r enghreifftiau yn barod. Soniodd Janet Finch-Saunders am un yn gynharach, a thynnaf eich sylw ati eto. Adfer morwellt a'r manteision amgylcheddol enfawr y gallai hyn eu cynnig. Mae Sky Ocean Rescue, WWF a Phrifysgol Abertawe yn arwain y Prosiect Morwellt, gydag ardaloedd o arfordir sir Benfro yn berffaith ar gyfer ailblannu, ac mae peth o'r gwaith eisoes wedi'i gwblhau. Collwyd cymaint â 92 y cant o forwellt y DU, ond bydd adfer y dolydd tanddwr hyn nid yn unig yn cefnogi bioamrywiaeth, mae morwellt yn storio carbon 30 gwaith yn gyflymach nag unrhyw goedwig naturiol ar y blaned.
Bydd y rhai ohonoch sy'n adnabod fy etholaeth yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn gwybod bod ganddi hanes hir a dwfn o gysylltiad â'r diwydiant hydrocarbon. Ers nifer o flynyddoedd, mae'r cyflogwyr hyn wedi darparu swyddi medrus iawn ar gyflogau da yng ngorllewin Cymru. Er ein bod yn gwybod bod yn rhaid inni leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil, yr hyn sy'n gwbl hanfodol yw ein bod yn trosglwyddo'n llwyddiannus o'n dibyniaeth ar danwydd ffosil tuag at danwydd adnewyddadwy gwyrdd. Os na wnawn hynny, a bod y tir yn cael ei dynnu o dan ein traed, bydd gennym argyfwng diweithdra a fydd yn achosi poen sylweddol i unigolion a theuluoedd. Fel y dywedodd yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed yn gywir, drwy newid o'r hen i'r newydd yn synhwyrol, gallwn ddefnyddio'r sgiliau hynny, y cwmnïau hynny a'r bobl hynny i ddatblygu'r ynni gwyrdd ac adnewyddadwy sydd ei angen arnom.
Rwy'n falch fod y Prif Weinidog ddoe, tra'i fod i fyny yn y COP, wedi tynnu sylw at brosiect Pembroke Dock Marine, a fydd yn darparu'r cyfleusterau, y gwasanaethau a'r gofod sydd eu hangen i sefydlu canolfan o'r radd flaenaf ar gyfer peirianneg forol. Er y bydd iddo gymhwysedd ar draws y diwydiant, mae ei ffocws uniongyrchol ar y sector ynni carbon isel. Gydag Offshore Renewable Energy Catapult, Porthladd Aberdaugleddau, Ynni Morol Cymru a Celtic Sea Power i gyd yn rhan ohono, unwaith eto mae'n dangos pŵer partneriaeth a chydweithio i hyrwyddo adferiad gwyrdd.
Gadewch i fentrau fel hyn sicrhau newid sylfaenol. Gadewch i'r prosiectau arloesol hyn weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud y cynnydd a welodd y DU yn lleihau ei hallyriadau ymhellach ac yn gyflymach nag unrhyw wlad arall yn y G7. Felly, rwy'n anghytuno'n llwyr â Delyth Jewell pan ddywed fod yn rhaid inni unioni'r camgymeriadau blaenorol; rydym eisoes yn gwneud hynny. Mae Luke Fletcher yn dweud nad oes dim wedi newid, ond yn ffodus, mae pethau wedi newid, rydym yn gwella. Rhaid imi ddweud bod gennych ychydig o wyneb yn dweud, 'Gadewch inni roi ideoleg o'r neilltu' a siarad wedyn am ddiddymu cyfalafiaeth. Mae angen i'r busnesau hyn helpu i wthio'r newidiadau er mwyn gwella pethau i bawb yma yng Nghymru ac ar draws y byd.
Yr hyn sy'n bwysig yw bod y cynnig hwn sydd gerbron y Siambr y prynhawn yma yn gydsyniol ac yn canmol llawer o'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd. Mae fy nghyd-Aelodau i gyd ar yr ochr hon i'r Siambr heddiw wedi canmol Llywodraeth Cymru a llawer o'r effeithiau y maent eisoes wedi'u sicrhau, oherwydd rydym am gyflawni economi werddach a mwy ecogyfeillgar. Ond yn ôl y ffordd y mae'r Llywodraeth hon yn dileu pwynt 4 o'n cynnig, mae'n ymddangos bod awydd i greu rhaniadau rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, yn hytrach na dod o hyd i dir cyffredin a llwybrau ymlaen.
Ar adeg pan fo Llywodraethau'r byd yn cyfarfod i ddod o hyd i ganlyniadau cyraeddadwy i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, a'r Prif Weinidog yn Glasgow yn canmol y rhinweddau hynny, dylem fod yn adlewyrchu hyn yn ein gweithredoedd i ddangos gwerth ein geiriau. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn fel y'i cyflwynwyd. Gadewch inni ddangos i bobl Cymru ein bod ni yma gyda'n gilydd yn gweithio ar y cyd tuag at wneud ein heconomi yn fwy gwyrdd ac yn fwy cynaliadwy. Diolch yn fawr, Lywydd.