1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 9 Tachwedd 2021.
1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fesurau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â COVID-19 yn ardal bwrdeistref sirol Caerffili? OQ57168
Llywydd, rwy'n diolch i Hefin David am y cwestiwn yna. Brechu yw'r cam mwyaf effeithiol o hyd i fynd i'r afael â'r coronafeirws. Mae'r cyfraddau sy'n manteisio arno yn etholaeth yr Aelod yn dal i fod yn uchel, gyda 75 y cant o bobl ifanc 16 ac 17 oed eisoes wedi cael eu brechlyn cyntaf. Rwy'n parhau i ddiolch i drigolion Caerffili am eu cefnogaeth yn hyn ac mewn camau eraill sydd eu hangen i leihau lefelau presennol y feirws.
Cyn i mi symud at fy nghwestiwn atodol, Llywydd, gyda'ch caniatâd, rwy'n siŵr bod yr Aelodau yn ymwybodol o'r digwyddiadau trasig ddoe ym Mhenyrheol yn fy etholaeth i, lle ymosododd ci domestig ar fachgen 10 oed ifanc a'i ladd. Mae'r bachgen wedi ei enwi yn Jack Lis, ac rwy'n siŵr y byddai pawb yn y Siambr hon yn dymuno anfon eu cydymdeimlad a'u dymuniadau gorau i'r teulu a chymuned Penyrheol, a fydd, yn ddi-os, yn gefn iddyn nhw o dan yr amgylchiadau hyn. Hoffwn ddweud hynny hefyd, ar ran fy nghyd-Aelodau rhanbarthol yn y Blaid Geidwadol ac ym Mhlaid Cymru hefyd, gan fy mod i'n gwybod ein bod ni i gyd yn teimlo yr un fath. Diolch, Llywydd.
Felly, fy nghwestiwn atodol: bydd mater y pasys COVID yn cael ei drafod heddiw. Byddaf i'n pleidleisio dros yr estyniad i sinemâu a neuaddau cyngerdd. Byddaf i'n gwneud hynny nid oherwydd y chwip, ond gan fy mod i'n credu mai dyma'n sicr yw'r peth iawn i'w wneud. Ac mae'r rhan fwyaf o bobl sydd wedi cysylltu â mi wedi dweud yn union yr un peth. Diben y rhain yw atal rhagor o gyfyngiadau symud a'n cadw ni i gyd yn ddiogel. Gyda hynny mewn golwg, a wnaiff y Prif Weinidog roi amlinelliad i ni o lwyddiant pasys COVID hyd yma, ac amlinelliad o sut y byddwn ni'n bwrw ymlaen yn y dyfodol?
Llywydd, rwy'n diolch i Hefin David, ac a gaf i hefyd ddechrau drwy gysylltu fy hun â'r hyn a ddywedodd am y digwyddiadau trist iawn yn ei etholaeth? Bydd yr Aelodau yma yn meddwl am Jack a'i deulu, rwy'n gwybod. Darllenais yr hyn a oedd gan bennaeth Ysgol Gynradd Cwm Ifor i'w ddweud amdano, a gallwch chi ddychmygu'r effaith y bydd hyn yn ei chael ar y plant ifanc iawn hynny a fydd wedi ei adnabod ac a fyddai, mewn rhai achosion, yn drist iawn, wedi bod yn dyst i'r digwyddiadau ofnadwy hynny.
O ran y pàs COVID, rwy'n diolch i Hefin David am yr hyn a ddywedodd amdano. Rwy'n credu ei fod wedi mynd cystal ag y gallem ni fod wedi ei obeithio o ran ei weithredu yma yng Nghymru. Clywais lawer o'r pethau a gafodd eu dweud yn y ddadl flaenorol ynglŷn ag ymarferoldeb y pàs COVID, ac, yn ymarferol, mae wedi troi allan mor syml ag y gallem ni fod wedi ei ddychmygu. Rydym ni wedi cael cyfres o ddigwyddiadau mawr â miloedd ar filoedd o bobl yn bresennol. Fe es i fy hun i Barc yr Arfau wythnos yn ôl. Edrychais yn ofalus iawn i weld sut roedd pobl yn ymddwyn wrth iddyn nhw gyrraedd y giatiau tro a chefais fy nghalonogi yn fawr gan y ffordd yr oedd pobl wedi meddwl ymlaen, yn barod iawn, yn gwybod beth roedden nhw'n ei wneud. Cafodd pob person a oedd yn bresennol eu gwirio wrth iddyn nhw fynd drwodd, ac, yn fwy na hynny, Llywydd, cefais fy nharo yn llwyr gan nifer y bobl a ddaeth ataf i yn y digwyddiad hwnnw i ddweud eu bod nhw wedi bod yn nerfus ynglŷn â dod. 'Saith deg mil o bobl', meddai rhywun wrthyf i; "rwyf i wedi bod mor ofalus. Prin rwyf i'n mynd allan, ac roeddwn i'n gwybod fy mod i'n dod yma gan wybod bod y person yr oeddwn i'n eistedd wrth ei ymyl, y person y tu ôl i mi a'r person o fy mlaen i gyd wedi eu brechu ddwywaith neu wedi cael prawf diweddar iawn. Rhoddodd hynny yr hyder i mi ddod yma heddiw.'
A dyna pam rwy'n credu bod y pasys COVID yn boblogaidd ymhlith pobl yma yng Nghymru, oherwydd, fel y dywedodd Hefin David, maen nhw'n helpu i gadw Cymru yn ddiogel ac maen nhw'n helpu i gadw Cymru ar agor. Dyna eu diben nhw—i ganiatáu i'r lleoliadau mwy agored i niwed hynny barhau i fod ar agor drwy'r hydref, drwy'r gaeaf, gan fod yr amddiffyniad ychwanegol hwnnw ar waith bellach.
Mae nifer y bobl sy'n mynd yn sâl gyda'r coronafeirws, diolch byth, wedi gostwng rhyw fymryn dros y 10 diwrnod diwethaf, ac os byddan nhw'n parhau i wneud hynny, yna ni fydd angen ymestyn y pàs y tu hwnt i'r estyniad y bydd y Senedd yn ei drafod y prynhawn yma. Ond pe bai'r niferoedd yn codi eto, a phe bai angen amddiffyniad y pàs hwnnw mewn mwy o leoliadau, yna ni fydd y Llywodraeth hon yng Nghymru yn oedi cyn cymryd y camau hynny sy'n helpu i gadw pobl yng Nghymru yn ddiogel ac yn helpu i gadw'r busnesau hynny yn masnachu.
Prif Weinidog, rwy'n gwerthfawrogi eich ymateb i fy nghyd-Aelod anrhydeddus. Mae Caerffili yn parhau i fod â'r nifer uchaf o achosion newydd o COVID yn fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru. Rydych chi'n berson dysgedig, ac rwy'n siŵr eich bod chi wedi gweld y straeon bod rheoleiddiwr meddyginiaethau'r DU wedi cymeradwyo yn ddiweddar y feddyginiaeth wrthfeirysol gyntaf ar gyfer COVID y gellir ei chymryd fel pilsen, yn hytrach na'i chwistrellu neu ei rhoi yn fewnwythiennol. Mewn treialon clinigol, fe wnaeth y bilsen leihau'r risg o fynd i'r ysbyty, neu o farwolaeth, o tua hanner, ond mae angen ei rhoi o fewn pum niwrnod i'r symptomau ddatblygu i fod y mwyaf effeithiol. Dywedwyd y bydd y driniaeth yn newid pethau yn llwyr, a chytunodd Llywodraeth y DU i brynu 480,000 dos. Prif Weinidog, pa drafodaethau mae eich Llywodraeth chi wedi eu cael ynghylch cael cyflenwadau o'r cyffur hwn ar gyfer cleifion COVID yma yng Nghymru, a phryd gallwn ni ddisgwyl i'r driniaeth hon ddechrau, ac a fydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i ardaloedd fel Caerffili, lle mae cyfraddau COVID yn parhau i fod yn ystyfnig o uchel? Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae'r newyddion bod y rheoleiddiwr wedi cymeradwyo meddyginiaeth wrthfeirysol newydd drwy'r geg yn newyddion da. Rydym ni wedi bod mewn trafodaethau gydag adran iechyd y DU. Yr hyn sydd wedi'i gynllunio yw astudiaeth ar raddfa fawr, gan ddefnyddio'r 480,000 dos hynny. A bydd yr astudiaeth honno yn cael ei defnyddio i nodi, yn y ffordd yr awgrymodd yr Aelod, yr amgylchiadau clinigol lle gellir darparu'r driniaeth honno yn fwyaf effeithiol. Bydd Cymru yn rhan o'r cynllun treialu hwnnw. Bydd cleifion yng Nghymru a fydd yn rhan o'r gwaith a fydd yn cael ei wneud i sicrhau ein bod ni'n dysgu popeth y mae angen i ni ei ddysgu am y posibilrwydd newydd hwn ac yna ei ddefnyddio yn y ffordd orau. Ac rydym ni'n parhau i weithio yn agos gydag adran y DU ar y mater hwn i wneud yn siŵr bod cleifion o Gymru yn gallu cael gafael ar y driniaeth a'n bod ni i gyd yn elwa ar y gwaith a fydd yn cael ei wneud.
Rwy'n cysylltu fy hun yn llwyr â'r hyn a ddywedodd Hefin am y gymuned ym Mhenyrheol.
Prif Weinidog, fis diwethaf, lansiodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ymgyrch yn annog menywod beichiog i gael y brechlyn COVID-19 oherwydd faint o fenywod heb eu brechu y mae angen triniaeth ysbyty arnyn nhw yn y pen draw. Mae un o bob chwe chlaf COVID sydd angen y math uchaf o gymorth bywyd yn Lloegr yn fenywod beichiog heb eu brechu, ond nid yw Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi ffigurau cyfatebol ar gyfer Cymru. Maen nhw'n dweud y gallai camwybodaeth fod yn gwneud menywod yn amharod i gael y brechlyn, er ei fod yn ddiogel, tra bod y risg y mae'r feirws yn ei pheri iddyn nhw yn ddifrifol. Dim ond tua 15 y cant o fenywod beichiog yn y DU sydd wedi eu brechu yn llawn, o'i gymharu â 79 y cant o bobl yn y boblogaeth gyffredinol. Byddwn i'n ddiolchgar, Prif Weinidog, pe gallech chi ddweud wrthym sut y mae'r ffigurau yn edrych ar gyfer Cymru, ac a wnewch chi ddweud wrthym hefyd beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â chamwybodaeth fel y gall menywod beichiog yn sir Caerffili, a ledled Cymru gyfan, glywed sut y gallai cael y brechlyn helpu i achub eu bywydau?
Rwy'n diolch i Delyth Jewell am wneud yr union bwynt yna, Llywydd. Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi arwain ymdrechion i geisio mynd i'r afael â chamwybodaeth, ac yn benodol i apelio i fenywod beichiog gael eu brechu. Maen nhw'n llawer iawn mwy mewn perygl o'r coronafeirws nag y byddan nhw byth o'r brechlyn. Ac mae hon yn un o'r enghreifftiau hynny lle mae camwybodaeth fwriadol yn achosi niwed gwirioneddol. Nid yw'r ffigurau gwirioneddol gen i o fy mlaen, Llywydd, ond rwy'n gwybod bod menywod beichiog heb eu brechu wedi eu gorgynrychioli yn sylweddol iawn mewn gwelyau gofal critigol yng Nghymru, yn ogystal â dros y ffin. Mewn geiriau eraill, nid yw menywod yn mynd yn sâl gyda'r coronafeirws ac yn dioddef ohono yn y gymuned yn unig, yn hytrach maen nhw ym mhen mwyaf difrifol y salwch y gall y coronafeirws ei greu, ac mae hynny yn achosi risg iddyn nhw ac i'r amgylchiadau y maen nhw'n eu cael eu hunain ynddyn nhw, ac a fyddai, o dan unrhyw amgylchiadau eraill, yn fater o ddathlu enfawr iddyn nhw.
Felly, rwy'n ailadrodd yr union apêl y mae Delyth Jewell wedi ei gwneud, Llywydd: os oes menywod yng Nghymru nad ydyn nhw wedi eu brechu ac sy'n cael perswadio i beidio â chael eu brechu oherwydd rhai o'r pethau y maen nhw'n eu darllen ar y cyfryngau cymdeithasol am frechu, edrychwch ar yr hyn y bydd y gwir ffeithiau yn ei ddweud wrthych chi, ac mae'r prif swyddog meddygol wedi eu nodi yn gwbl eglur yma yng Nghymru. Rydych chi'n llawer gwell eich byd, yn llawer mwy diogel o gael brechiad, ac yng Nghymru byddem ni'n sicr yn eich annog i wneud hynny.