Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 9 Tachwedd 2021.
Rwy'n diolch i Peter Fox am hynna, Llywydd. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gysylltedd. Lle ceir bylchau, rydym ni'n parhau i gamu i mewn. Mae dros 27,000 o adeiladau bellach wedi sicrhau mynediad at ffeibr llawn ledled Cymru o dan ein rhaglen cyflwyno ffeibr llawn gwerth £56 miliwn, ac mae hynny yn cynnwys dros 1,000 o adeiladau yn sir Fynwy.