Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 9 Tachwedd 2021.
Fel y rhan fwyaf o Aelodau'r Senedd, os nad pob un ohonom ni, byddaf yn mynychu gwasanaethau cofio ddydd Iau a dydd Sul. Rwy'n llongyfarch ac yn diolch i'r Lleng Brydeinig Frenhinol ac eraill fel band iachawdwriaeth Treforys a chymdeithas hanesyddol Llansamlet a fydd yn cynnal digwyddiadau yn fy etholaeth i. Cais i Lywodraeth Cymru: a wnewch chi ddarparu rhestr o ddigwyddiadau ar eich gwefan, fel y gall pobl edrych arno a gweld beth sy'n digwydd yn eu hardaloedd?