Gweithio o Bell

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 9 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:17, 9 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n diolch i'r Aelod am hynna. Llywydd, nod polisi gweithio o bell Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod 30 y cant o'r gweithlu yn gweithio o bell yn rheolaidd yn ystod y tymor Senedd hwn. Ceir llawer o fanteision amgylcheddol ac economaidd i weithio o bell, a bydd hyn yn magu arwyddocâd yng nghyd-destun newid hinsawdd.