1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 9 Tachwedd 2021.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gweithio o bell yng Nghymru? OQ57142
Rwy'n diolch i'r Aelod am hynna. Llywydd, nod polisi gweithio o bell Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod 30 y cant o'r gweithlu yn gweithio o bell yn rheolaidd yn ystod y tymor Senedd hwn. Ceir llawer o fanteision amgylcheddol ac economaidd i weithio o bell, a bydd hyn yn magu arwyddocâd yng nghyd-destun newid hinsawdd.
Diolch, Prif Weinidog. Nawr, mewn ateb rhyddid gwybodaeth diweddar, nododd eich swyddogion mai dim ond 18 o gyflogeion oedd y lefel presenoldeb ddyddiol gyfartalog a gofnodwyd ar gyfer mis Medi er gwaethaf y ffaith bod ychydig dros 390 o bobl wedi eu contractio ar hyn o bryd i weithio yn adeiladau Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno. Nid yw hyn yn gynaliadwy o ystyried maint a chwmpas yr adeilad hwnnw. Nawr, mae polisi 30 cyllideb garbon Sero Net Cymru 2 yn ailadrodd eich uchelgais hirdymor i alluogi tua 30 y cant o weithwyr Cymru i weithio o bell y tu hwnt i COVID-19, a bydd buddsoddiad o £0.5 miliwn mewn chwe safle gweithio hyblyg ar leoliadau yng Nghymoedd Cymru. Ond Prif Weinidog, rwy'n pryderu nad oes unrhyw safleoedd yn y gogledd wedi eu clustnodi eto i gefnogi gwaith tebyg. Felly, gyda dymuniad i weld arian trethdalwyr yn cael ei ddefnyddio yn fwy doeth, a gan gydnabod bod tua £23 miliwn wedi ei wario ar yr adeilad eiconig hwn yng Nghyffordd Llandudno, ac £1 miliwn ar waith cynnal a chadw ac atgyweirio ers hynny, roeddwn i'n meddwl tybed a fyddech chi mor garedig â chynnal adolygiad ac esbonio pam nad oes gennym ni unrhyw ganolfannau gweithio hyblyg, ac a allech chi edrych ar yr adeilad hwn i'w addasu at ddibenion gwahanol a throi ei ddefnydd yn rhannol i fod yn ganolfan gweithio hyblyg i fusnesau a hyd yn oed entrepreneuriaid yn y gogledd, a allai fod eisiau cael trefniant gweithio gartref. Rwy'n awyddus iawn i weld yr adeilad hwn yn cael ei ddefnyddio yn well. Diolch.
Llywydd, rwy'n diolch i'r Aelod am dynnu sylw at lwyddiant polisi Llywodraeth Cymru o leihau nifer y bobl y mae angen iddyn nhw fod yn y gweithle yn ystod pandemig byd-eang. Yn bersonol, rwy'n credu ei fod yn gyflawniad gwych bod Llywodraeth Cymru wedi gallu parhau i ddarparu'r holl wasanaethau yr ydym ni'n eu darparu wrth gadw ein staff yn ddiogel, gyda dim ond pobl hanfodol yn cael eu dwyn ynghyd yn sgil y risg gynyddol y mae pobl yn ymgynnull yn ei olygu yn anochel yng nghyd-destun COVID. Rwy'n falch hefyd o allu helpu'r Aelod drwy roi gwybod iddi fod tair canolfan gweithio o bell wedi eu cynllunio ar gyfer y gogledd, ym Mae Colwyn, yn y Rhyl ac ar safle M-SParc ar Ynys Môn. Rwy'n diolch iddi am yr awgrym adeiladol a wnaeth tua diwedd ei chwestiwn atodol am ddefnyddiau amgen y gellid meddwl amdanyn nhw ar gyfer adeilad Cyffordd Llandudno. Mae'n iawn—mae'n adeilad eiconig ac roedd yn fuddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Lafur Cymru i wneud yn siŵr bod Llywodraeth Cymru yn cael ei chynrychioli ym mhob rhan o'n cenedl. Mewn byd ôl-COVID ac yng nghyd-destun y newid yn yr hinsawdd, mae angen i ni edrych ar y defnydd o'r adeiladau hynny yn y dyfodol, a byddaf yn gwneud yn siŵr bod yr awgrymiadau a wnaeth yr Aelod yn cael eu hystyried yn rhan o hynny.