Part of the debate – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 9 Tachwedd 2021.
Mae ymagwedd macro-economaidd traddodiadol at ddatblygiad economaidd wedi methu â sicrhau cynnydd economaidd na lles cymdeithasol o fewn terfynau amgylcheddol cynaliadwy nac wedi gwasgaru'r cynnydd hwnnw ledled broydd Cymru. Mae'r model presennol sy'n dibynnu ar dwf parhaus, cronni cyfalaf, a thynnu allan er elw yn amhosibl ei gynnal ar blaned â therfynau gydag adnoddau â therfynau.
Gan droi at y datganiad, mae ymdrechion presennol Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu cyfleustodau cymdeithasol wrth ddyfarnu contractau—yr wyf i'n ei groesawu yn llwyr—yn peryglu gweld rhai busnesau yn aralleirio eu ceisiadau i ymgorffori'r gofynion newydd ar bapur er mwyn gwneud hynny'n unig, yn hytrach na dangos sut maen nhw am ymgorffori gwerth cymdeithasol yn eu harferion gwaith arfaethedig. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i warchod rhag hyn?
Mae'n rhaid i ni symud oddi wrth obsesiynau gyda sectorau gwerth uchel, a mewnfuddsoddiad hefyd, tuag at farn fwy cyfannol sy'n canolbwyntio mwy ar yr economi sylfaenol. Gellid cyflawni hyn drwy ffrwyno grym adeiladu cyfoeth cymunedol a sefydliadau angori sy'n annog busnesau sy'n eiddo lleol neu fusnesau sy'n cael eu gwarchod yn gymdeithasol, sy'n fwy tebygol o gyflogi, prynu, a buddsoddi yn lleol yn hytrach na thynnu cyfoeth allan. Yn Preston—fel clywsom ni heddiw eisoes—fe ddefnyddiwyd adeiladu cyfoeth cymunedol i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sy'n bresennol yn y rhanbarth a sicrhau bod datblygu economaidd yn yr ardal yn cael ei rannu yn fwy cyfartal ymhlith y trigolion. Oherwydd yr ymagwedd hon, fe wariwyd £4 miliwn yn ychwanegol yn lleol gan gyngor Preston dros gyfnod o bedair blynedd.
Mae'r ffaith bod cyflenwyr o Gymru wedi gallu ennill gwerth £11 miliwn ychwanegol o gontractau gofal iechyd i'w groesawu, ond rwy'n siŵr bod y Gweinidog yn rhannu fy uchelgais i inni fynd ymhellach fyth. Mae beth da bod y Gweinidog wedi cyhoeddi'r gronfa i gefnogi cwmnïau lleol. Fe fyddwn i'n croesawu rhagor o fanylion am y gronfa honno, ac yn adleisio galwadau Paul Davies am adolygiad o'r gronfa her. Ac ymhellach, a wnaiff y Gweinidog amlinellu safbwynt Llywodraeth Cymru ynglŷn â chreu patrwm Cymreig o gaffael cyhoeddus lleol, sydd wedi ei adeiladu ar yr economi sylfaenol, trwy osod nod penodol o gynyddu lefel caffael y sector cyhoeddus i 75 y cant o gyfanswm gwariant cyllideb caffael y Llywodraeth?
Mae'n rhaid i strategaeth ddiwydiannol werdd newydd nid yn unig gefnu ar arferion carbon-ddwys, ond pontio hynny yn deg gyda swyddi gwyrdd parod a gwarant o swyddi lleol a fydd yn helpu i adfywio economïau lleol cefn gwlad ac ardaloedd ôl-ddiwydiannol Cymru. Yn dilyn arweiniad Llywodraeth yr Alban, fe ddylid datblygu comisiwn pontio teg i oruchwylio'r newid diwydiannol gwyrdd, ac fe ddylem ni sefydlu cynghrair o fusnesau yng Nghymru—sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru—i ganolbwyntio ar gydlynu camau gweithredu, nid polisïau yn unig, a fydd yn sicrhau twf cymdeithasol, economaidd, ac amgylcheddol. Mae pontio teg yn allweddol i’r economi sylfaenol yng Nghymru, gan fod cynifer o sectorau yn yr economi sylfaenol yn dioddef oherwydd materion sy'n deillio o gyflogau fesul awr sy'n is na'r cyfartaledd ac oriau gwaith sy'n gymharol ansefydlog. Mae hyn yn arwain at fwy o bobl yn byw mewn tlodi neu mewn perygl o syrthio i dlodi, ac mae'n cael effaith ddinistriol ar fywyd teuluol, ar iechyd, ac ar wariant yn yr economi leol. Rwyf i o'r farn y bydd y Siambr yn gallu dyfalu i ba gyfeiriad yr wyf i'n teithio, ond a wnaiff y Gweinidog gadarnhau a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried y posibilrwydd o sefydlu comisiwn ar gyfer pontio teg neu beidio?
Wrth gwrs, mae'n rhaid i gynyddu cyflogau a chynnig mwy o ddiogelwch a sefydlogrwydd oriau fod yn rhan annatod o unrhyw bolisi sy'n anelu at feithrin yr economi sylfaenol, ac fe all hynny ein helpu ni i fynd i'r afael â rhai o'r materion recriwtio hynny a amlinellwyd gan y Gweinidog yn ei ddatganiad. Yn y gwasanaethau bwyd a diod, llety a manwerthu, er enghraifft, mae gweithwyr yn cael o leiaf £3 yr awr yn llai na'r gweithiwr cyfartalog yng Nghymru, ond mae'r sectorau hyn yn cyflogi tua phedwar o bob 10 o holl weithwyr Cymru. Yn y sectorau manwerthu, bwyd, llety, a gofal cymdeithasol, mae hyd yn oed y gweithwyr sy'n cael eu talu'r cyflog gorau yn ennill llai na £500 yr wythnos. Pa fesurau a wnaiff y Llywodraeth eu cymryd i gynyddu enillion ac oriau yn yr economi sylfaenol, ac a yw'r Gweinidog wedi ystyried sut y gallem ni ymgorffori wythnos waith pedwar diwrnod yn yr economi sylfaenol? Fe soniais i am gaffael yn gynharach—wel, mae cyfle yma i ddefnyddio Deddf gwaith teg Cymru ac ysgogi wythnosau gwaith byrrach drwy gynnwys hynny yn y strategaeth gaffael, sydd, wrth gwrs, yn gwbl briodol, yn ôl adran 60 Deddf Cymru 2006.
Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn yr economi sylfaenol yn peri pryder hefyd, gan fod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau mwyaf i'w weld yn y diwydiant ynni ac mae'n sylweddol iawn hefyd mewn addysg, iechyd, a gofal cymdeithasol dibreswyl. Ceir bwlch nodedig mewn enillion wythnosol gros rhwng menywod a dynion ym mhob sector o'r economi sylfaenol, sy'n gwaethygu wrth i gyflogau gynyddu. Mae ffigurau Chwarae Teg a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru rhwng 2020 a 2021 yn dangos bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi gwaethygu yn y cyfnod hwn, gan gynyddu 0.7 y cant i fwlch cyfan o 12.3 y cant. Wrth i ni drosglwyddo at economi werddach, lle bydd llawer o'r canolbwyntio ar sectorau fel ynni, adeiladu, a thai, sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymdrin â'r bwlch cyflog hwn a sicrhau bod pawb yn cael cyfran deg a gwaith teg yn economi werdd Cymru i'r dyfodol?