Part of the debate – Senedd Cymru am 5:53 pm ar 9 Tachwedd 2021.
Diolch. Rwy'n gwerthfawrogi'r cyfle i wneud ymyriad, ac rwy'n gwerthfawrogi ei bod yn anodd drwy Zoom. Rydych newydd grybwyll mai lleiafrifoedd ethnig fydd y rhai yr effeithir arnyn nhw fwyaf gan y cais am gerdyn adnabod pleidleiswyr hwn. Nid yw hynny'n cael ei ategu gan yr ystadegau a ddarparwyd gan y Comisiwn Etholiadol. Maen nhw'n awgrymu bod gan 99 y cant o bobl o leiafrifoedd ethnig gardiau adnabod pleidleiswyr—bod ganddyn nhw ddogfennau adnabod a fyddai'n addas fel dogfennau adnabod pleidleiswyr—o'i gymharu â 98 y cant o'r boblogaeth gyffredinol.