Part of the debate – Senedd Cymru am 6:36 pm ar 9 Tachwedd 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i bawb sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd. Mae gwahaniaeth sylfaenol rhwng dathlu rhyfel a nodi aberth unigolion, ac wrth i ni gofio'r holl rai a gollwyd oherwydd rhyfel a gwrthdaro yr wythnos yma, mae’n bwysig hefyd cofio arwyddocâd eu haberth. Wrth gofio, rhaid mynnu cynnydd hefyd ar waith heddwch, a gofynnaf yn garedig am eich cefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer ein gwelliant sydd yn nodi cefnogaeth i’r angen i ymdrechu i sicrhau atebion heddychlon i bob gwrthdaro. Llynedd, fe wnaethom groesawu sefydlu Academi Heddwch Cymru, a thestun balchder yw gweld eu gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf, megis seremoni gwobrau heddychwyr ifanc, lle dathlwyd cyfraniadau pobl ifanc i heddwch. Golyga hyn bod y cenedlaethau nesaf yn cael cefnogaeth i lunio dyfodol heddychlon.
Dros y degawdau diwethaf mae gan Gymru record ddinesig arbennig mewn perthynas â hybu heddwch a chydsafiad rhyngwladol. Gwelwyd hyn yn fwyaf diweddar wrth i Urdd Gobaith Cymru groesawu teuluoedd o ffoaduriaid o Affganistan a oedd angen llety ar frys. Mae enghreifftiau di-ri eraill ar hyd y blynyddoedd, megis neges heddwch ac ewyllys da gan bobl ifanc Cymru, a fydd yn dathlu ei ganmlwyddiant flwyddyn nesaf; yr apêl heddwch a wnaed yn 1923 a 1924, pan lofnododd 40 y cant o ferched Cymru ddeiseb yn galw ar ferched yn Amercia i lobïo Arlywydd America i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd; a’r ymgyrchoedd yn erbyn arfau sydd wedi para 40 mlynedd gan CND Cymru a sefydliadau fel mudiad gwrthapartheid Cymru.
Mewn maes sydd wedi bod am ddegawdau yn anllywodraethol gan fwyaf, hoffwn feddwl ein bod yn parhau i wneud cynnydd ar waith heddwch wrth gael strategaeth cysylltiadau rhyngwladol yn 2019. Fe fydd Plaid Cymru bob amser yn barod i weithio gyda’r academi i sicrhau bod heddwch yn ganolog yn strategaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru, a bod Cymru’n gwneud cyfraniad tuag at ymchwil ac arfer a gaiff ei gydnabod yn fyd-eang. Mae’r hyn rydym wedi ei gyflawni ers diwedd y rhyfeloedd byd yn ein hatgoffa bod munud o dawelwch yn deyrnged fach i’r rheini sydd wedi colli eu bywydau yn enw rhyfel. Ond nid yw munud yn ddigon. Rhaid hefyd eu cofio yn ein gwaith ac yn ein gweithredoedd drwy gydol y flwyddyn, fel nad yw eu haberth yn ofer.