1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 10 Tachwedd 2021.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fesurau lleihau carbon yng Nghymru? OQ57136
Gwnaf. Mae 'Cymru Sero Net' yn cynnwys 123 o bolisïau i leihau allyriadau. Mae ein gwaith modelu yn dangos ein bod, drwy gyflawni'r cynllun hwn, ar y trywydd iawn i berfformio'n well na chyllideb garbon 2. Byddwn yn parhau i gydweithredu ag eraill a'u cefnogi i leihau carbon ymhellach fel ein bod ar y trywydd iawn tuag at Gymru lanach a mwy cyfartal.
Diolch, Weinidog. Mae 'Cymru Sero Net', wrth gwrs—y cynllun rydych yn sôn amdano—yn galw am leihau allyriadau a newid dulliau teithio gan y cyhoedd, busnesau, ffermwyr a'r sector cyhoeddus. Nawr, er bod y cynllun yn trafod newid tanwydd a gwefru trafnidiaeth, mae hefyd yn cydnabod pwysigrwydd defnydd tir a'r angen am waith adfer. Er bod y rhaglen weithredu genedlaethol ar fawndiroedd wedi bod yn ddatblygiad i'w groesawu, rwy'n dal i bryderu bod y cyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru—oddeutu £5.75 miliwn dros bum mlynedd—yn dangos diffyg uchelgais, gyda thargedau i adfer 6 i 800 hectar y flwyddyn yn unig. Mae fy mhryder yn dwysáu wrth gymharu'r ffigur hwn â Lloegr, lle mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi £640 miliwn i adfer 35,000 hectar erbyn 2025.
Weinidog, gan gydnabod eich bod wedi teithio i COP26 i gyfarfod â gwledydd a rhanbarthau eraill, a allwch gadarnhau i'r Senedd hon pa syniadau y daethoch â hwy yn ôl gyda chi i wella mesurau lleihau carbon yng Nghymru ac a fydd hyn yn cynnwys adolygiad o gyllid ac uchelgais y rhaglen weithredu genedlaethol ar fawndiroedd fel y gellir gwneud ymdrechion pellach i gloi'r carbon hwn? Diolch.
Wel, rwyf am ddechrau, Janet, drwy ddweud fy mod yn gyson yn edmygu eich haerllugrwydd yn dweud wrth Lywodraeth Cymru nad ydynt yn gwario digon o arian yng ngoleuni addewid eich Llywodraeth na fyddem yn cael 'yr un geiniog yn llai' na'r hyn roeddem yn ei gael gan yr Undeb Ewropeaidd, a gadael yr Undeb Ewropeaidd gan anwybyddu pob un ymrwymiad a wnaeth eich Llywodraeth a phob gwleidydd ynddi i Gymru, gan gynnwys y rheini ohonoch ar y meinciau hynny. Felly, rwyf am ddechrau drwy ddweud nad wyf am wrando ar unrhyw bregethau gennych chi ynglŷn â faint o arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei wario ar unrhyw beth hyd nes y byddwch yn gwneud iawn am yr arian sydd ar goll o gyllideb Cymru o ganlyniad i weithredoedd twyllodrus y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan, mewn cydweithrediad â chithau ar y fainc honno.
Wedi dweud hynny, roedd COP26 yn ddigwyddiad diddorol iawn, yn enwedig o ystyried ein gallu i drafod gyda llywodraethau is-genedlaethol eraill o bob cwr o'r byd—is-lywodraethau gwladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig—yr hyn roeddent yn ei wneud ac i arddangos rhai o'r pethau roeddem ni yn eu gwneud. Felly, cefais drafodaethau arbennig o ddiddorol gyda’r bobl o Sao Paulo, sy’n fega-ddinas, ond er hynny, mae ganddi gryn dipyn o synergedd â Chymru, gan gynnwys yr angen am newid cyfiawn. Ac rwy'n falch iawn o ddweud bod Llywodraeth Sao Paulo yn cydnabod cyfraniad cynllun 'Cymru Sero Net' yn ei chynllun sero-net ei hun—ar y clawr blaen, yn wir.
Cawsom drafodaethau diddorol iawn hefyd gyda phobl Québec—Llywodraeth Québec—ynglŷn â'r ffordd y mae coedwigaeth wedi newid yn llwyr yng Nghanada, y ffordd y gallwch gynyddu gorchudd coed yn ogystal â'r diwydiant pren cynaliadwy ar yr un pryd, a chyfres o drafodaethau diddorol iawn ynglŷn ag ynni dŵr.
Cefais drafodaethau diddorol iawn gyda Llywodraeth yr Alban ynglŷn â'r ffordd y maent yn cyflawni rhaglenni cyfnewid gwres o ddŵr, sy'n rhywbeth rwy'n benderfynol o'i gyflwyno yng Nghymru. A chredaf mai'r peth mwyaf trawiadol oll oedd fy nhrafodaethau â phobl frodorol o sawl rhan o'r byd ynglŷn â'r trafferthion y maent yn eu hwynebu ac apeliadau'r llywodraethau hynny i fynd ymhellach yn gyflymach. Felly, os yw Janet Finch-Saunders o ddifrif yn bryderus am hyn, efallai y gall gyfleu'r neges honno i'w Llywodraeth a sicrhau eu bod yn rhoi eu harian ar eu gair.
Am wlad fach, mae Cymru bob amser wedi gwneud yn well na'r disgwyl ar y llwyfan byd-eang, o'n chwyldro diwydiannol arloesol i'n camau blaenllaw ar yr hinsawdd, a hon yw'r Senedd gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd. Pan fo Cymru'n siarad, mae'r byd yn gwrando. Ni fyddem yn y sefyllfa rydym ynddi heddiw heb ein Cymoedd. Roedd cyfoeth o lo yn y Rhondda, ond rwy'n credu'n wirioneddol fod cymaint yn fwy gennym i'w gynnig i leihau allyriadau fel rhan o'r trawsnewidiad gwyrdd. Mae gennym leoliadau gwych ar gyfer ynni adnewyddadwy, fel y safle ynni dŵr ym mharc gwledig Clydach. Mae gennym siop newydd sbon yn Nhreorci, Green Valley, sy'n gwerthu ffrwythau a llysiau lleol, a fydd, gobeithio, yn cael ei hefelychu ledled y Rhondda a ledled Cymru. A soniodd Gweinidog yr economi yr wythnos diwethaf am ddatgloi cyfleoedd swyddi i wneud Cymru'n arweinydd ym maes adfer diwydiannol, gan adfer ein tomenni glo. A yw'r Gweinidog yn credu y gallwn ddatgloi potensial ein Cymoedd i arwain y chwyldro gwyrdd, ac os felly, pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig?
Diolch, Buffy. Rwy'n gwbl benderfynol na fydd y trawsnewidiad, yn y chwyldro diwydiannol nesaf sydd i ddod, yr un fath â'r hyn a ddigwyddodd yn y chwyldro diwydiannol blaenorol. Mae'n llygad ei lle yn dweud bod cyfoeth o lo yn arfer bod yn y Rhondda, ond yr hyn a ddigwyddodd gyda'r glo hwnnw oedd nad aeth budd y glo, a'r cyfoeth a ddaeth yn ei sgil, i bobl y Rhondda; fe aeth i nifer fach iawn o gyfalafwyr. Mae'n rhaid inni sicrhau bod y trawsnewidiad gwyrdd yn cael effaith gyfan gwbl i'r gwrthwyneb, a'i fod yn drawsnewidiad cyfiawn sydd o fudd i bobl y Rhondda. Mae Cymru'n lwcus o gael cyfoeth o adnoddau naturiol ar gyfer y chwyldro gwyrdd newydd hefyd. Mae gennym ein moroedd hardd, ein mynyddoedd hyfryd, ein cymoedd godidog. Mae pob un yn cyfrannu at y cyfle i ni allu bod yn allforiwr net ym maes ynni adnewyddadwy. Ond rhaid i fuddion hynny ddod yn ôl i bobl y Cymoedd. Mae hefyd yn llygad ei lle yn tynnu sylw at ddyfeisgarwch a chreadigrwydd pobl y Cymoedd. Rwy’n llwyr gydnabod hynny, ac rydym yn gwbl benderfynol o sicrhau ein bod yn harneisio’r creadigrwydd hwnnw yn ein cynlluniau sgiliau a datblygu economaidd newydd.
I nodi ambell beth, rwy'n llwyr gydnabod yr enghreifftiau a gododd, ac mae'r economi yn y Cymoedd yn arbennig o ddiddorol mewn perthynas â'r rhaglenni atgyweirio ac adfer, ac rwyf wedi cael y fraint o ymweld â chryn dipyn ohonynt dros y blynyddoedd, ac maent bob amser wedi bod yn ysbrydoliaeth. Ond hoffwn sôn am ddwy ohonynt yn benodol. Yn gyntaf, rhaglen y Cymoedd Technoleg, a'r cymorth i fusnesau ochr yn ochr â hi. Mae'n dangos ein buddsoddiad yn y Cymoedd i gefnogi twf diwydiannau'r dyfodol. Mae'n hanfodol er mwyn creu'r economi gadarn a chynaliadwy rydym yn dymuno'i gweld yng Nghymoedd de Cymru. A'r un y soniodd amdani hefyd, parc rhanbarthol y Cymoedd, roedd archwilio'r cysyniad hwnnw'n flaenoriaeth allweddol i dasglu'r Cymoedd. Rydym wedi ymrwymo £8 miliwn ar gyfer 12 safle'r pyrth darganfod, a dau safle rhannu mannau gwaith hyd yn hyn. Bydd y pyrth darganfod yn safleoedd blaenllaw enghreifftiol sy'n arddangos y Cymoedd, yn ennyn mwy o ddiddordeb a gwybodaeth am dreftadaeth naturiol a diwylliannol y Cymoedd, yn cynyddu twristiaeth gynaliadwy, ac yn rhoi hwb economaidd.
Rwy'n meddwl o ddifrif mai un o'r gwersi o'r COP yw'r cynnydd mawr ledled y byd yn nifer y bobl sy'n dymuno gweld twristiaeth gynaliadwy, sy'n ystyriol o'r hinsawdd. Ac mae Cymru mewn sefyllfa dda iawn i ddarparu hynny, ac rydym mewn sefyllfa dda i fod ar y blaen yn y diwydiant hwnnw. Ac felly rwy'n fwy na pharod i gydnabod, gyda hi, y gwaith a wnaed eisoes, a dweud bod Llywodraeth Cymru'n barod i gefnogi'r cymunedau, y Cymoedd, wrth iddynt ddod ynghyd i fanteisio ar y chwyldro diwydiannol newydd.
A gaf fi ganmol, yn ddiffuant, yr arweinyddiaeth a ddangoswyd gan Lywodraeth Cymru a phob Gweinidog, nid yn unig yn awr, ond yn y cyfnod cyn y COP hefyd? Mae wedi bod yn wych gweld hynny. Mae gennym fwy i'w wneud—mwy o lawer—ond gobeithiwn y bydd yr un arweinyddiaeth yn dal i fod yno erbyn diwedd y COP, yn ystod yr ychydig ddyddiau olaf hyn, wrth wireddu a chadw at y cynigion i genedl-wladwriaethau bach a gwledydd sy'n datblygu i fynd i'r afael â lleihau carbon a lliniaru carbon, ond hefyd wrth gynyddu uchelgais. Ni all hyn fod yn ben draw i bethau—un set o drafodaethau.
Ond Weinidog, un o'r pethau y mae Llywodraeth Cymru'n eu gwneud yw'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio. Rydym yn croesawu hyn yn fawr, gan y gwyddom faint o waith sydd angen ei wneud i sicrhau bod rhai o'r cartrefi sydd eisoes yma ledled Cymru, ac yn enwedig yn fy ardal i, yn dda ac yn gynnes, ac yn effeithlon o ran eu defnydd o ynni. Ond er mwyn gwneud hynny, mae angen inni sicrhau hefyd, gyda'r cynlluniau blaenorol, fod gennym hyder ynddynt. Rydym wedi cael rhai anawsterau gyda rhai cynlluniau sydd wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn fy ardal fy hun, yng Nghaerau, ond gwn nad yno'n unig y mae'n digwydd; mae eraill yng Nghymru wedi wynebu anawsterau. Rydych wedi bod yn trafod gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Tybed a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi ynglŷn â chynnydd y trafodaethau hynny, gan fod angen inni sicrhau bod cartrefi'r preswylwyr hynny'n cael eu gwella ar ôl iddynt gael gosodiadau anfoddhaol.
Diolch, Huw. Rwy'n ymwybodol iawn o sefyllfa rhai o'ch etholwyr yng Nghaerau, ac rydych yn llygad eich lle, nid yno yn unig y mae'r broblem, ond mae'n enghraifft dda o gynllun nad oedd efallai wedi elwa o ddull wedi'i optimeiddio o ôl-osod. Felly, mae'n gynllun lle mae deunydd inswleiddio waliau allanol wedi'i osod ar eiddo pan nad dyna'r peth iawn i'w wneud ar gyfer yr eiddo dan sylw, ac maent bellach yn dioddef y canlyniadau.
Yn siomedig, gwn eich bod yn ymwybodol mai cynllun Llywodraeth y DU oedd yr un y gwnaeth eich etholwyr fanteisio arno. Fe'i cefnogwyd gan rywfaint o arian Llywodraeth Cymru er mwyn ei wneud yn bosibl. Yn anffodus, cafwyd cyfres o ddigwyddiadau anffodus, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod y gweithredwyr gwreiddiol wedi mynd yn fethdalwyr, nid oes unrhyw warantau a bondiau perfformiad ar waith, ac mae nifer o broblemau eraill yn codi. Yn siomedig, mae Llywodraeth y DU yn gwrthod derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ganlyniad eu cynllun, sy'n warthus yn fy marn i. Rydym yn ymwybodol iawn o sefyllfa'r preswylwyr yno, a charwn yn fawr allu eu helpu. Rwy'n aros am y cyngor ffurfiol ar y llu o faterion cyfreithiol sydd ynghlwm wrth hyn. Rwy'n disgwyl cael y cyngor hwnnw yn ystod yr wythnos neu ddwy nesaf, Huw, ac rwy'n fwy na pharod i'w drafod gyda chi cyn gynted ag y byddwn yn ei gael.
Mae cwestiwn 2 [OQ57139] wedi'i dynnu yn ôl. Felly, cwestiwn 3 sydd nesaf—Paul Davies.