Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 10 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 1:51, 10 Tachwedd 2021

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a gobeithio bod y Gweinidog yn well ar ôl ei hannwyd wythnos diwethaf.

Yn dilyn yr etholiad, fe gyhoeddodd y Llywodraeth gynllun er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng ail gartrefi, a fydd yn cynnwys ardal beilot. Mae yna gymunedau ar hyd a lled y wlad yn teimlo effeithiau’r argyfwng eang a niweidiol yma. Fy mhryder i, ynghyd â chymunedau drwy Gymru benbaladr, ydy bod y peilot am fod yn llawer rhy gyfyng. Bydd yn cymryd llawer rhy hir i'w weithredu’n iawn, bydd yn cymryd hyd yn oed mwy o amser i’w effeithiau gael eu deall ac i unrhyw wersi fedru cael eu gweithredu a llywio polisi’r Llywodraeth. Tra bod y Llywodraeth yn oedi ar weithredu effeithiol go iawn, bydd cymunedau’n dioddef. Bydd tai yn aros allan o gyrraedd rhai sydd eu hangen, bydd prisiau’n codi, a chymunedau a’r iaith sy’n hollol greiddiol iddynt yn cael eu herydu. Gyda’r cynllun peilot yma mewn golwg, felly, a wnaiff y Gweinidog ymateb i’r pryder dilys fod cymunedau eraill, y rhai nad ydynt yn rhan o’r peilot, yn cael eu gadael ar ôl a’u hanwybyddu? Pa obaith gallwn ni ei gynnig i’r cymunedau yma sydd angen gweld camau brys yn cael eu cymryd ar fater ail gartrefi?