1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 10 Tachwedd 2021.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, a llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf—Natasha Asghar.
Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod First Bus wedi cael gwared ar wasanaeth bws X10 rhwng Caerdydd ac Abertawe. Un o'r rhesymau a roddwyd gan First Bus dros ddiddymu'r gwasanaeth hwn yw, ac rwy'n dyfynnu,
'Mae'n cludo nifer anghymesur o gwsmeriaid sy'n cael consesiynau, yn hytrach na chwsmeriaid masnachol, sy'n ei gwneud yn amhosibl cynnal y costau.'
Mae'r henoed a phobl anabl a oedd yn gallu defnyddio pàs bws i deithio'n rhwydd rhwng Caerdydd ac Abertawe bellach wedi dioddef ergyd i'w hannibyniaeth a'u gallu i fyw eu bywyd yn llawn. Pa sylwadau a gyflwynwyd gennych i First Bus ynghylch diddymu'r gwasanaeth hwn? Ac a ydych yn cytuno y bydd hyn yn cael effaith niweidiol ar eich polisi o annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na'u ceir i gymudo bob dydd? Diolch.
Yn ddiweddar, rwyf wedi cyfarfod â First Bus a chyda'r undebau llafur i drafod y pwysau amrywiol y mae'r diwydiant bysiau'n ei wynebu ar hyn o bryd. Mae arnaf ofn fod y mater penodol a godwyd gan Natasha Asghar yn ganlyniad uniongyrchol i'r ffaith bod y Llywodraeth Geidwadol wedi preifateiddio'r diwydiant bysiau yn ôl ynghanol yr 1980au, ac rydym yn dal i fyw gyda'r canlyniadau. Mae'r ffordd y mae'r cwmnïau'n cael eu cymell i gynnig llwybrau sy'n cynyddu eu refeniw i'r eithaf yn hytrach na buddsoddi mewn llwybrau sy'n angenrheidiol i'r gymdeithas yn parhau i fod yn broblem barhaol i ni. Dyma un o'r rhesymau pam ein bod yn datblygu ein strategaeth fysiau eleni, gyda deddfwriaeth yn dod gerbron y Senedd, gan fod angen inni reoleiddio'r diwydiant bysiau drwy fasnachfreinio. Ni allwn ganiatáu i weithredwyr masnachol ddewis a dethol y llwybrau y maent yn dymuno eu dewis yn unig. Felly, mae arnaf ofn mai dyma ganlyniad economeg y farchnad rydd y mae'r Ceidwadwyr yn mynnu ein bod yn ei dilyn. Mae hyn yn dangos nad yw'n cynorthwyo pobl i drosglwyddo o geir i drafnidiaeth gyhoeddus, a hyd nes y byddwn yn unioni hynny, ni fyddwn yn gallu ei wneud.
Diolch, Ddirprwy Weinidog, ond o'r cofnodion sydd gennyf, mae Llafur wedi bod mewn grym am y 22 mlynedd ddiwethaf yma yng Nghymru, felly gadewch inni ganolbwyntio ar hynny yn gyntaf.
Yr ail gwestiwn sydd gennyf yw: yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynlluniau i hyrwyddo cerbydau trydan yng Nghymru, a oedd ymhell ar ei hôl hi ac yn brin o fanylion. Gwn fy mod wedi dweud hyn wrthych eisoes. Ond o dan eich cynigion, rydych yn nodi eich bwriad i greu 80 pwynt gwefru trydan yn unig ar brif gefnffyrdd Cymru mewn pedair blynedd. Bydd cymunedau gwledig ledled Cymru yn cael eu gadael ar ôl, heb unrhyw gyhoeddiad o gyllid i gyd-fynd â'r cynigion ar gyfer hybiau cymunedol. Yn anffodus, nid oes unrhyw sôn ynglŷn â faint y bydd y cynllun hwn yn ei gostio. Heb fod mor bell â hynny yn ôl, fe ddywedoch chi fod angen 4,000 o bwyntiau gwefru cyflym erbyn 2030. Fodd bynnag, nid oes cyfeiriad at hyn yn y strategaeth. Felly, Ddirprwy Weinidog, a yw'r targed wedi'i anghofio? Ac a yw creu 80 pwynt gwefru yn unig mewn pedair blynedd ar brif ffyrdd Cymru mor uchelgeisiol â hynny mewn gwirionedd, yn enwedig gan fod angen oddeutu 20,000 arnom ledled y wlad?
Gadewch inni gofio bod pwerau dros fysiau—eu rheoleiddio—yn dal i fod ar lefel y DU. Felly, mae'r ffaith ein bod wedi bod mewn grym yng Nghymru yn amherthnasol, gan nad oes gennym bwerau i newid y ffordd y caiff y farchnad ei rheoleiddio. Credwn y gallwn, drwy fasnachfreinio, ateb rhywfaint o hynny, ond mae hyn yn ganlyniad uniongyrchol i bolisi Llywodraeth y DU yn yr 1980au sydd wedi'i gadw yn ei le. Felly, gadewch inni gofio hynny.
Ar y pwyntiau gwefru trydan, ar hyn o bryd, yn ôl cyfran, mae gennym fwy o bwyntiau gwefru nag sydd o geir trydan yn bodoli. Felly, credwn fod hyn yn iawn at ei gilydd ar gyfer nifer y ceir sydd gennym ar hyn o bryd. Yr her sydd gennym, i gadw'r gyfran honno yr un fath wrth i nifer y ceir trydan sy'n cael eu prynu gynyddu'n ddramatig, fel yr awgryma pob amcanestyniad, yw dal i fyny â hynny. Ond credwn, unwaith eto, mai tasg i'r sector preifat yw hon yn bennaf; nid yw'r Llywodraeth yn darparu gorsafoedd petrol, ac ni ddisgwylir iddi fod yn brif ddarparwr pwyntiau gwefru trydan. Lle ceir methiant yn y farchnad, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, mae angen inni sicrhau ein bod yn ysgogi buddsoddiad, fel y gwnaethom gyda band eang, sydd eto'n fethiant arall yn y farchnad—methiant arall i reoleiddio gan Lywodraeth y DU. Mae angen inni allu camu i'r adwy.
Rydym yn edrych yn benodol ar ddatblygu clybiau ceir trydan gan ddefnyddio ynni cymunedol i sicrhau nad oes yn rhaid i bobl fod yn berchen ar gar trydan, gan eu bod yn ddrytach na char ag injan tanio mewnol ar hyn o bryd, a bydd hynny'n creu lefel o hyblygrwydd fel y gall pobl ddod yn llai dibynnol ar geir.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Gwn eich bod yn aml yn hoffi defnyddio Llywodraeth ganolog y DU fel rheswm a chyfiawnhad dros lawer o bethau, ac ar sawl achlysur, gwn nad ydych yn hoffi ateb fy nghwestiynau, felly weithiau, rwy'n meddwl tybed a fyddech yn hapusach i ddychwelyd at ITV Wales a gweithio ar ateb y cwestiynau rwy'n eu gofyn i chi, yn hytrach na dargyfeirio'r ateb i rywle arall.
Fy nghwestiwn olaf yw hwn: mae nifer y teithwyr sy'n defnyddio Maes Awyr Caerdydd wedi gostwng i'r lefel isaf ers y 1950au. Cwympodd nifer y teithwyr o 1.6 miliwn i 48,000 yn unig, gyda phrif weithredwr y maes awyr yn dweud bod y cwymp yn ganlyniad i anogaeth Llywodraeth Cymru i bobl beidio â theithio dramor. Yr wythnos diwethaf, yn y pwyllgor cyfrifon cyhoeddus, dywedodd swyddogion o Faes Awyr Caerdydd fod y doll teithwyr awyr yn dreth gosbol sy’n rhwystro gallu cwmnïau hedfan i ychwanegu at eu capasiti. Mae Maes Awyr Caerdydd wedi bod yn tangyflawni ers dod i berchnogaeth gyhoeddus yn 2013. Mater i Lywodraeth Cymru yw hwn, Ddirprwy Weinidog, ac ymddengys bod pethau'n mynd o ddrwg i waeth yn rheolaidd. Felly, Ddirprwy Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu cyhoeddiad y Canghellor, Rishi Sunak, o Lywodraeth y DU, yn y gyllideb, y bydd y doll teithwyr awyr yn cael ei haneru ar gyfer teithiau awyr domestig? A ydych yn cytuno bod hwn yn gam cadarnhaol a fydd yn cynorthwyo adferiad Maes Awyr Caerdydd, neu a fyddai’n well gennych barhau i achub y maes awyr gyda miliynau o bunnoedd o arian trethdalwyr Cymru?
Wel, â phob parch, rwy'n ateb cwestiynau'r Aelod; ond nid yw'n hoffi'r atebion. Ni chredaf fod sybsideiddio ac annog teithiau awyr domestig yn cyd-fynd â'r her newid hinsawdd sy'n ein hwynebu ac y mae Prif Weinidog y DU yn ceisio honni ei fod yn dangos arweinyddiaeth ryngwladol wych mewn perthynas â hi; credaf fod hynny'n anghyson. Mae'r maes awyr yn gorff sy'n cael ei redeg yn fasnachol, ac mae ei reolwyr yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â'r ffordd orau o redeg eu maes awyr eu hunain. Felly y dylai fod. Rydym wedi buddsoddi yn y maes awyr i sicrhau bod gan Gymru faes awyr, ond bydd yr Aelod yn ymwybodol fod gennym bandemig, a bod gostyngiad rhyngwladol wedi bod mewn traffig awyr. Mae hynny wedi cael effaith sylweddol ar gyllid y maes awyr, a gwnaethom roi pecyn cymorth ar waith i'w cefnogi drwy hynny.
Llefarydd Plaid Cymru nawr, Mabon ap Gwynfor.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a gobeithio bod y Gweinidog yn well ar ôl ei hannwyd wythnos diwethaf.
Yn dilyn yr etholiad, fe gyhoeddodd y Llywodraeth gynllun er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng ail gartrefi, a fydd yn cynnwys ardal beilot. Mae yna gymunedau ar hyd a lled y wlad yn teimlo effeithiau’r argyfwng eang a niweidiol yma. Fy mhryder i, ynghyd â chymunedau drwy Gymru benbaladr, ydy bod y peilot am fod yn llawer rhy gyfyng. Bydd yn cymryd llawer rhy hir i'w weithredu’n iawn, bydd yn cymryd hyd yn oed mwy o amser i’w effeithiau gael eu deall ac i unrhyw wersi fedru cael eu gweithredu a llywio polisi’r Llywodraeth. Tra bod y Llywodraeth yn oedi ar weithredu effeithiol go iawn, bydd cymunedau’n dioddef. Bydd tai yn aros allan o gyrraedd rhai sydd eu hangen, bydd prisiau’n codi, a chymunedau a’r iaith sy’n hollol greiddiol iddynt yn cael eu herydu. Gyda’r cynllun peilot yma mewn golwg, felly, a wnaiff y Gweinidog ymateb i’r pryder dilys fod cymunedau eraill, y rhai nad ydynt yn rhan o’r peilot, yn cael eu gadael ar ôl a’u hanwybyddu? Pa obaith gallwn ni ei gynnig i’r cymunedau yma sydd angen gweld camau brys yn cael eu cymryd ar fater ail gartrefi?
Fel y gŵyr yr Aelod yn iawn, rydym wedi bod yn trafod hyn yn y grŵp trawsbleidiol, ac ymhlith holl bleidiau'r Senedd, i geisio dod o hyd i ffordd drawsbleidiol ymlaen. Felly, mae braidd yn siomedig ei fod wedi gwleidyddoli'r mater fel y gwnaeth. Rydym yn cynnal y cynllun peilot, fel y gŵyr, er mwyn gallu sicrhau ein bod yn mynd mor gyflym â phosibl, o ystyried yr ystod o bethau cymhleth iawn y mae angen eu gwneud, gan fynd â'r cymunedau gyda ni. Bydd yn gwybod cystal â minnau fod hyn yn mynd yn groes i gyfres gyfan o hawliau dynol posibl, yn ogystal â phethau eraill, a bod arnom angen i'r bobl y mae hyn yn effeithio ar eu hawliau eiddo a buddsoddiadau eiddo gefnogi hyn a bod yn fodlon gyda'r hyn sy'n digwydd, neu fel arall ni all yr holl beth weithio. Gallwn dreialu hynny gyda'r cynllun peilot, dysgu'r gwersi ac yna ei gyflwyno ledled Cymru gyda chyn lleied o broblemau â phosibl, fel y gallwn wneud pethau cyn gynted â phosibl. Mae'n ymwybodol iawn o hynny, ac a dweud y gwir, rwy'n siomedig iawn gyda'i ymgais i wleidyddoli'r mater.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog, am yr ateb hwnnw i gwestiwn gwleidyddol mewn siambr wleidyddol.
Dwi am droi rŵan at fater pwerdai nwy. Er gwaethaf ymrwymiad ymddangosiadol Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio, fel sy’n cael ei ymgorffori yn eich strategaeth sero net, mae wedi dod i’m sylw i ein bod ni yma yng Nghymru, neu yn hytrach fod Llywodraeth Cymru, yn dal i alluogi caniatâd cynllunio ar gyfer gosodiadau nwy newydd. Mae pwerdy yn Wrecsam yn cael ei adeiladu a fydd yn weithredol 2,500 awr y flwyddyn, mae pwerdy arfaethedig ym Mangor wedi cael caniatâd cynllunio, yn ogystal â phwerdy 5 MW arfaethedig ym Mhorthmadog, ymhlith llawer iawn mwy ar draws Cymru. Siawns nad yw hyn yn mynd yn groes i strategaeth Llywodraeth Cymru ei hun i ddatgarboneiddio economi Cymru a chyrraedd sero net erbyn 2050. Os ydych chi felly o ddifri ynghylch mynd i’r afael â newid hinsawdd, pam eich bod chi’n caniatáu i weithfeydd nwy newydd gael eu hadeiladau yng Nghymru? A fyddwch chi yn cymryd y camau angenrheidiol i reoli a newid rheolau cynllunio er mwyn galluogi peidio â datblygu rhagor o’r rhain yn ddiangen? Diolch.
Diolch am eich cwestiwn. Mae hon yn broblem gymhleth iawn, oherwydd wrth inni drosglwyddo i ynni adnewyddadwy mor gyflym ag y gallwn, un o'r pethau y mae'n rhaid i ni eu gwneud hefyd yw cadw'r goleuadau ynghynn. Ar hyn o bryd, mae Cymru'n eithaf dibynnol ar bwerdai nwy ac ynni o nwy i wneud hynny. Mae'n amlwg fod yn rhaid inni gael cynllun pontio ar waith, ac mae'n rhaid i'r cynllun pontio hwnnw weithio i bawb. Mae'n rhaid iddo gynnal ein diwydiannau a chadw ein goleuadau ynghynn. Yr hyn y mae'n rhaid inni ei wneud yw cynyddu faint o ynni adnewyddadwy rydym yn ei gynhyrchu, gan leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil o unrhyw fath ar yr un pryd. Rydym eisoes wedi cael gwared ar bwerdai glo o Gymru yn gynnar. Roedd yn wych ein bod wedi gwneud hynny ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gwneud hynny, ond yn amlwg, mae'n golygu bod gennym beth dibyniaeth ar nwy er mwyn cynhyrchu'r hyn a elwir yn gyflenwad sylfaen o ynni. Ynni yw hwnnw y gellir ei gynnau drwy wasgu switsh—yn llythrennol drwy wasgu switsh, pan fydd pawb yn gwasgu botwm y tegell am 9 o'r gloch y nos, er enghraifft. Felly, mae ymchwyddiadau ynni mawr yn digwydd yn y wlad. Gwyddom pryd y maent yn digwydd, ond ni ellir eu rhagweld yn ddigon da inni allu diffodd a chynnau ynni adnewyddadwy. Weithiau, nid yw'r haul yn tywynnu ac nid yw'r gwynt yn chwythu.
Un o'r rhaglenni mawr sydd ar waith gennym yng Nghymru, fel nifer o Lywodraethau ledled y byd, yw'r un i chwilio am gyflenwad sylfaen o ynni adnewyddadwy, sef ynni adnewyddadwy y gellir ei gynnau drwy wasgu switsh. Dyna pam fod gennym her y môr-lynnoedd llanw a nifer o heriau ynni'r môr yng Nghymru, gan ei bod yn ymddangos i bawb y gallai ynni'r môr, o bosibl, fod yn ateb i sicrhau cyflenwad sylfaen o ynni adnewyddadwy. Rwy’n mawr obeithio y gallwn sicrhau bod Cymru'n rhan o ddechrau diwydiant byd-eang mewn cyflenwad sylfaen o ynni adnewyddadwy. Ond tan hynny, mae'n ddyletswydd arnom i gadw'r goleuadau ynghynn a'n diwydiant a'n busnesau'n gweithio gyda'r cyflenwad ynni sydd ganddynt. Rwy’n derbyn, ac mae gennyf lawer o gydymdeimlad gyda phwyslais cwestiwn yr Aelod i mi, ond yn amlwg, rydym yn ceisio cynyddu un peth wrth leihau'r llall, ac mae’n rhaid inni sicrhau ein bod yn gwneud hynny'n gymesur.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Mi fuaswn i wrth fy modd yn gweld y transition plan yna, ac rwy'n croesawu'ch geiriau chi ar ynni y môr hefyd, achos dyna, wedi'r cyfan, yw'r ffordd ymlaen.
Dwi am droi yn olaf at fater taliadau tai dewisol—discretionary housing payments. Yn hyn o beth, dwi am ganolbwyntio ar ba mor effeithiol mae awdurdodau lleol yn defnyddio'r ychwanegiad yma o dros £4 miliwn ar gyfer taliadau tai dewisol. Fel rydyn ni'n ei wybod, diben y taliadau yma ydy er mwyn helpu'r rhai sydd ar fudd-daliadau ac yn cael trafferth talu rhent, yn benodol yn dilyn toriadau ciaidd y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan. Does dim amheuaeth bod yna broblemau wedi bod efo sicrhau bod pobl yn gwneud cais am y taliadau yma, ac wrth ystyried yr argyfwng tai a digartrefedd sy'n ein hwynebu ni yma, gyda nifer cynyddol o bobl yn cael eu dal mewn llety dros dro, dwi'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno y byddai'n syfrdanol pe na bai'r arian yma i gyd yn cael ei ddyrannu erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Ond mae wedi dod i fy sylw i fod yna broblemau o ran faint sydd, mewn gwirionedd, yn medru hawlio'r taliadau. Felly, hoffwn gael rhagor o fanylion gan y Gweinidog ar y mater, os gwelwch yn dda. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint o aelwydydd digartref, ers mis Ebrill, sydd wedi eu galluogi i symud o lety dros dro i gartrefi parhaol drwy fanteisio ar y taliadau tai dewisol, gan gynnwys y £4 miliwn atodol a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru? Ac a yw Llywodraeth Cymru o'r farn bod angen canllawiau cryfach ar awdurdodau lleol ar sut i ddefnyddio'r £4 miliwn ychwanegol yma? Diolch.
Diolch, Mabon. Un o'r pethau rydym yn ymdrin â hwy ar hyn o bryd yw nad yw'r llif o bobl ddigartref, o ganlyniad i'r pandemig a nifer o faterion economaidd eraill, wedi lleihau mewn unrhyw ffordd. Felly, mae ein hawdurdodau lleol yn dal i ymdrin â mwy na 1,000 o bobl ddigartref y mis ledled Cymru. Ar hyn o bryd, mae gennym ychydig dros 12,000 o bobl mewn llety dros dro, er bod llawer ohonynt yn dal i gael eu symud i lety parhaol. Nid yw'r ffigurau gennyf, ond fe edrychaf i weld. Ni chredaf ein bod yn cysylltu'r taliad disgresiwn at gostau tai â symud i dai parhaol yn benodol—gellir cael y taliad hwnnw i dalu rhent mewn tai dros dro, er enghraifft. Rwy'n fwy na pharod i rannu'r siart sy'n dangos faint o daliadau disgresiwn at gostau tai a wnaed, ac ym mha gyfran, gyda'r holl Aelodau.
Mae dau beth pwysig i'w dweud yma. Rydym yn monitro drwy'r amser yr hyn y gall awdurdodau lleol ei wneud gyda'r taliadau disgresiwn at gostau tai, ac a yw'r meini prawf cymhwysedd yn ddigonol at eu diben. Rydym wedi newid hynny ar sawl achlysur yn ystod y pandemig, fel y gŵyr, er mwyn eu gwneud yn fwy hygyrch i bobl. Y syniad, yn amlwg, yw cynorthwyo pobl i aros yn eu tai, boed yn dai dros dro neu barhaol. Rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod, ac yn wir, i rannu hynny gyda'r holl Aelodau, gyda grid sy'n dangos faint o daliadau a wnaed.
Yr anhawster, fel y nododd yn gywir, yw'r broblem gyda'r system les. Newid y mae'r Llywodraeth Geidwadol wedi'i wneud o dan y radar yn eu ffordd gwbl ddidostur yw rhewi'r lwfans tai lleol ddwy flynedd yn ôl, fel bod gwerth budd-dal i rywun nad ydynt mewn tai cymdeithasol eisoes yn lleihau. Mae'r newidiadau bach hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr ym mywydau pobl, ac mae'r don enfawr sydd ar fin taro pobl ar incwm is y gaeaf hwn gyda'r cynnydd mewn taliadau yswiriant gwladol, diddymu'r £20 o gredyd cynhwysol a rhewi'r lwfans tai lleol yn gwbl warthus. Felly, rwy'n fwy na pharod i weithio gydag unrhyw wybodaeth sydd ganddo ynglŷn ag awdurdodau lleol yn ei chael hi'n anodd talu'r arian. Cytunaf yn llwyr ag ef ein bod am i’r arian hwnnw gael ei dalu i'r bobl sydd ei angen ledled Cymru er mwyn ceisio lliniaru rhai o’r toriadau mwyaf didostur i mi eu gweld erioed yn y wladwriaeth les, gan unrhyw Lywodraeth yn ystod fy oes mewn gwirionedd. Mae'n eithaf syfrdanol, y diffyg cydymdeimlad echrydus hwn gan y Llywodraeth Geidwadol, ac rwy'n fwy na pharod i rannu lle mae'r taliadau gydag ef ac Aelodau eraill. Nid yw'r wybodaeth honno gennyf ar hyn o bryd, ond rwy'n fwy na pharod i'w rhannu gydag ef.