Effeithlonrwydd Ynni Cynaliadwy

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 10 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:01, 10 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Yn ddiweddar, gwnaethom gyhoeddi ein cynllun cyflawni ar gyfer Cymru gyfan, 'Cymru Sero Net'. Mae hwn yn nodi'r camau sy'n rhaid i bawb ohonom eu cymryd yn ystod tymor y Senedd ar ein taith tuag at sero net. Mae hyn yn cynnwys ein dull o weithredu ar effeithlonrwydd ynni, sy’n cysylltu buddsoddiad, arloesedd, ymgysylltiad â'r cyhoedd ac ysgogiad cadwyni cyflenwi.