Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 10 Tachwedd 2021.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Weinidog. Fel rŷch chi'n gwybod, dwi wedi mynegi pryderon sawl gwaith yn y Siambr hon am ffermydd yn cael eu prynu gan gwmnïau y tu allan i Gymru ar gyfer gwrthbwyso allyriadau carbon, a bron bob wythnos nawr rŷn ni'n clywed am enghreifftiau o hyn yn digwydd. Ac o ganlyniad, rŷn ni'n colli ffermydd teuluol a cholli tir amaeth da, ac rŷn ni'n gweld coed yn disodli pobl, gydag effaith negyddol honno ar natur ein cymunedau gwledig. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, dwi wedi cael cyfle i gwrdd â thrigolion yng Nghwrt-y-cadno yng ngogledd sir Gaerfyrddin a Hermon yn sir Benfro, sy'n poeni'n fawr iawn am y datblygiadau arfaethedig hyn, ac rôn nhw'n teimlo'n hollol ddi-rym ac yn gofyn i fi godi'u pryderon nhw gyda chi fel Gweinidogion.
Nawr, pan godais i'r mater yma gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd y mis diwethaf, fe wnaeth hi gydnabod bod hon yn broblem, ac, fel y dywedoch chi, yr unig asesiad sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd yw asesiad effaith amgylcheddol. Rwy'n bendant o'r farn bod yn rhaid inni ddefnyddio'r system gynllunio i reoli'r math hwn o ddatblygiadau er mwyn i drigolion lleol gael mwy o reolaeth ar ddyfodol eu cymunedau a siapo defnydd tir yn eu hardaloedd. Ydych chi'n cytuno?