1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 10 Tachwedd 2021.
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y fframwaith rheoleiddio cyfredol ar gyfer plannu coed at ddibenion gwrthbwyso carbon? OQ57149
Gwnaf. Mae’n rhaid i waith ar greu coetiroedd newydd yng Nghymru gydymffurfio â rheoliadau asesu effaith amgylcheddol. Y cod carbon coetiroedd yw'r safon gwrthbwyso gwirfoddol ar gyfer creu coetiroedd yn y DU ac mae'n rhoi sicrwydd ynghylch arbedion carbon coetiroedd a reolir yn gynaliadwy. Wrth gwrs, dylai cwmnïau flaenoriaethu lleihau allyriadau carbon bob amser cyn gwrthbwyso.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Weinidog. Fel rŷch chi'n gwybod, dwi wedi mynegi pryderon sawl gwaith yn y Siambr hon am ffermydd yn cael eu prynu gan gwmnïau y tu allan i Gymru ar gyfer gwrthbwyso allyriadau carbon, a bron bob wythnos nawr rŷn ni'n clywed am enghreifftiau o hyn yn digwydd. Ac o ganlyniad, rŷn ni'n colli ffermydd teuluol a cholli tir amaeth da, ac rŷn ni'n gweld coed yn disodli pobl, gydag effaith negyddol honno ar natur ein cymunedau gwledig. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, dwi wedi cael cyfle i gwrdd â thrigolion yng Nghwrt-y-cadno yng ngogledd sir Gaerfyrddin a Hermon yn sir Benfro, sy'n poeni'n fawr iawn am y datblygiadau arfaethedig hyn, ac rôn nhw'n teimlo'n hollol ddi-rym ac yn gofyn i fi godi'u pryderon nhw gyda chi fel Gweinidogion.
Nawr, pan godais i'r mater yma gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd y mis diwethaf, fe wnaeth hi gydnabod bod hon yn broblem, ac, fel y dywedoch chi, yr unig asesiad sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd yw asesiad effaith amgylcheddol. Rwy'n bendant o'r farn bod yn rhaid inni ddefnyddio'r system gynllunio i reoli'r math hwn o ddatblygiadau er mwyn i drigolion lleol gael mwy o reolaeth ar ddyfodol eu cymunedau a siapo defnydd tir yn eu hardaloedd. Ydych chi'n cytuno?
Er fy mod yn cydnabod y pryderon yn llwyr, credaf ei bod yn bwysig iawn inni fynd i'r afael â'r broblem hon mewn ffordd gyfrifol, a'n bod yn gweithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i atebion. Nid wyf yn cefnogi cwmnïau sy'n gwyrddgalchu drwy ddefnyddio plannu coed fel ffordd o gyfiawnhau dulliau sy'n llygru. Nawr, mae gennym ofyniad, os ydym am gyrraedd ein targed sero-net erbyn 2050—a gwn ei fod ef a'i blaid yn credu y dylem fod yn cyrraedd sero-net cyn hynny—i gynyddu ein gweithgareddau plannu coed yn ddramatig: cynnydd o bymtheg gwaith y coed a blennir erbyn diwedd y degawd hwn. Nawr, rydym eisiau i ffermwyr Cymru a thirfeddianwyr Cymru arwain y gwaith hwnnw. Nid ydym eisiau i fuddsoddwyr o'r tu allan i gymunedau wneud hynny, byddai'n well gennym pe bai hynny'n cael ei wneud o fewn ein cymunedau, ac er tegwch, cyn gynted ag y dechreuais fy ymarfer cychwynnol ar blannu coed ar ddechrau'r haf, sylwais fod hon yn broblem ar unwaith, ac rwyf wedi sefydlu grŵp sy'n gwneud gwaith da i edrych ar fodelau ariannu amgen er mwyn gallu cadw'r rheolaeth a'r berchnogaeth yn lleol, heb amharu ar batrymau perchnogaeth tir lleol, ond sicrhau'r cyllid fel y gellir cyrraedd y targedau plannu coed. Roeddwn yn falch iawn o weld bod Cefin Campbell wedi ymweld â phrosiect Stump Up for Trees yn y Fenni a bod y gwaith y maent yn ei wneud wedi creu argraff fawr arno. Credaf ei fod yn fodel rhagorol, oherwydd nid yw'n disodli cynhyrchu bwyd—mae'n plannu ar dir anghynhyrchiol—ac mae'n cael ei reoli a'i berchen yn lleol, ac rydym yn gweithio gyda hwy yn awr i weld a ellir ailadrodd y model hwnnw ar raddfa fwy ledled y wlad. Ond mae'n amlwg fod perygl, drwy bŵer cyfalafiaeth, fod pobl sy'n gallu talu mwy yn gallu cynnig mwy o arian na phobl leol am dir ar gyfer plannu nifer sylweddol o goed.
Rwyf wedi gofyn i swyddogion cynllunio edrych ar sut y gall y system gynllunio alluogi plannu coed, ac i weld a oes angen inni edrych ar fesurau pan fo newidiadau sylweddol mewn perchnogaeth tir. Rwyf ychydig yn betrus ynglŷn â'r ffaith mai diben yr ymarfer plannu coed oedd dileu rhwystrau, oherwydd mae ffermwyr yn cwyno ei bod yn rhy anodd plannu coed ar hyn o bryd, ac ni fyddwn yn dymuno ei gwneud yn anos fyth iddynt yn ddiarwybod. Felly, rwy'n credu bod angen taro'r cydbwysedd hwnnw, ond rwyf wedi bod yn gwrando ar ei bryderon ef a phryderon pobl eraill. Cefais gyfarfod da iawn yma yn Glasgow ddoe gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ar y mater, ac rwyf wedi ymrwymo i weithio ar sail drawsbleidiol i weld sut y gallwn weithio gyda chymunedau i gyflawni ein targedau plannu coed, ond i wneud hynny mewn ffordd sy'n dod â'r cymunedau gyda ni.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Sioned Williams.