Y System Drafnidiaeth yng Ngorllewin De Cymru

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 10 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 2:20, 10 Tachwedd 2021

Diolch, Dirprwy Weinidog. Pythefnos yn ôl, gan ddatgan bod yr argyfwng hinsawdd yn golygu bod yn rhaid inni newid y ffordd rŷn ni'n teithio, fe gyhoeddoch chi ddiweddariad ar gyfer cynllun metro bae Abertawe a gorllewin Cymru, a hynny gan nodi bod 17 y cant o allyriadau carbon Cymru yn dod o drafnidiaeth, a bod angen felly i gael pobl i newid i fathau mwy cynaliadwy o drafnidiaeth. Fel rhan o'r adroddiad a gyhoeddwyd, mae'r mapiau o gynlluniau arfaethedig i'w gweld, ac mae bylchau mawr yn y mapiau hynny o ran datblygiadau trafnidiaeth i wasanaethu cwm Tawe a chwm Afan yn enwedig. Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro dros fetro yn ne-orllewin Cymru, a rŷn ni'n credu bod yn rhaid i gynllun metro gynnwys gwasanaethau rheilffordd neu reilffordd ysgafn i gysylltu cymunedau'r Cymoedd gorllewinol. Mae'r bylchau hyn yn y cynlluniau felly yn siomedig o ystyried y buddiannau economaidd, gwyrdd a chymdeithasol posibl, ac felly a wnaiff y Dirprwy Weinidog esbonio pam nad oes yna fwriad, o beth welaf i, hyd yn oed yn yr hirdymor, i ddatblygu a chryfhau cysylltiadau trafnidiaeth cwm Tawe ac Afan a helpu trigolion i gael mynediad hawdd i drafnidiaeth gyhoeddus yn unol â'r nod gwaelodol strategaeth drafnidiaeth y Llywodraeth? Diolch.