Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 10 Tachwedd 2021.
Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod First Bus wedi cael gwared ar wasanaeth bws X10 rhwng Caerdydd ac Abertawe. Un o'r rhesymau a roddwyd gan First Bus dros ddiddymu'r gwasanaeth hwn yw, ac rwy'n dyfynnu,
'Mae'n cludo nifer anghymesur o gwsmeriaid sy'n cael consesiynau, yn hytrach na chwsmeriaid masnachol, sy'n ei gwneud yn amhosibl cynnal y costau.'
Mae'r henoed a phobl anabl a oedd yn gallu defnyddio pàs bws i deithio'n rhwydd rhwng Caerdydd ac Abertawe bellach wedi dioddef ergyd i'w hannibyniaeth a'u gallu i fyw eu bywyd yn llawn. Pa sylwadau a gyflwynwyd gennych i First Bus ynghylch diddymu'r gwasanaeth hwn? Ac a ydych yn cytuno y bydd hyn yn cael effaith niweidiol ar eich polisi o annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na'u ceir i gymudo bob dydd? Diolch.