Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 10 Tachwedd 2021.
Byddai datganoli rheolaeth dros Ystâd y Goron yn rhoi mwy o hyblygrwydd inni wrth ddewis pa mor bell a pha mor gyflym rydym am ddefnyddio ynni adnewyddadwy, yn enwedig yn nyfroedd Cymru. Rydym yn bwriadu i'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ystyried Ystâd y Goron yng nghyd-destun asesiad cynhwysfawr o'r pwerau sydd eu hangen ar Gymru.