Ynni Adnewyddadwy

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 10 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:04, 10 Tachwedd 2021

Diolch yn fawr am eich ateb, Weinidog. Ar ymweliad ddoe â phorthladd Caerdydd, fe wnaethom ni drafod y posibiliadau anhygoel sydd gan Gymru ym maes ynni adnewyddadwy, ac aeth y sgwrs ymlaen ynglŷn â datganoli Ystâd y Goron i Gymru fel mae wedi digwydd i'r Alban yn barod. Fel gwnaeth y Prif Weinidog ddweud yn ddiweddar ac fel rŷch chi wedi awgrymu heddiw, roedd rheolwyr y porthladd hefyd yn credu, yn grediniol iawn, y byddai datganoli Ystâd y Goron yn beth da i Gymru ac yn creu potensial enfawr ym maes ynni adnewyddadwy. Y consýrn mawr gyda nhw a'r consýrn mawr gyda fi yw ein bod ni'n mynd i golli cyfle anhygoel fan hyn yng Nghymru a bod gwledydd eraill yn mynd i fynd ar flaen y gad gyda ni fan hyn. Felly, wrth gofio sylwadau'r Prif Weinidog, wrth gofio beth rŷch chi newydd ei ddweud ac o ystyried potensial amlwg datganoli Ystâd y Goron i Gymru, pam felly wnaethoch chi fel Llywodraeth, fel Llafur yma yn y Senedd, bleidleisio gyda'r blaid Dorïaidd yn erbyn mesur Plaid Cymru i ddatganoli Ystâd y Goron i Gymru fis diwethaf?