Targed Sero-net

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 10 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:33, 10 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ofyn pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn perthynas â chludiant o'r cartref i'r ysgol? Yn amlwg, un ffordd o gyrraedd sefyllfa sero-net yw hyrwyddo trafnidiaeth gyhoeddus fel ffordd o gael pobl i'r ysgol ac oddi yno, ond mae'n amlwg fod gormod o bobl yn defnyddio eu ceir i gludo plant i ac o'r ysgol ar hyn o bryd. Ac eto, nid yw'n ymddangos bod y trefniadau cludiant presennol o'r cartref i'r ysgol yn darparu cludiant ar fysiau i ddigon o bobl. A oes unrhyw beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i adolygu ei pholisi ar gludiant o'r cartref i'r ysgol gyda'r bwriad o wneud mwy o ddisgyblion yn gymwys i gael cludiant am ddim ar fysiau?