Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 10 Tachwedd 2021.
Mae'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn Nwyrain De Cymru yn parhau i fod yn uchel. Mae dros £26 miliwn o gyllid cyfalaf yn cael ei fuddsoddi yn y rhanbarth, gyda phump o ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd, yn ogystal â darpariaeth gofal plant. Mae pecyn arall o £30 miliwn o gyfalaf a £2.2 miliwn o gyllid grant i gefnogi cynlluniau trochi yn y Gymraeg ar gael ar draws Cymru.