Addysg Gymraeg yn Nwyrain De Cymru

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 10 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:55, 10 Tachwedd 2021

Diolch, Weinidog. Mae Plaid Cymru yn croesawu, wrth gwrs, y ffaith y bydd ysgol gynradd Gymraeg newydd yn agor ym Merthyr fis Medi nesaf. Rydyn ni hefyd yn cefnogi'r cynlluniau sydd ar y gweill i agor ysgol gynradd Gymraeg yn Nhredegar yn 2023. Hoffwn ddiolch i Rhieni dros Addysg Gymraeg a'r awdurdodau lleol am eu gwaith yn symud hyn ymlaen ac, wrth gwrs, i'r Llywodraeth am ddarparu'r adnoddau.

Mae llawer o gymunedau eraill sydd angen ysgol gynradd, Weinidog, ond cwestiwn ynglŷn ag ysgol uwchradd sydd gen i heddiw. Mae'n destun tristwch ac annhegwch cymdeithasol a ieithyddol nad oes unrhyw ddarpariaeth uwchradd addysg Gymraeg yn siroedd Merthyr, Blaenau Gwent a Mynwy. Mae hyn yn golygu dim darpariaeth ysgol uwchradd Gymraeg yn 50 y cant o'r siroedd sydd yn fy rhanbarth i. I ble mae'r plant fydd yn derbyn yr addysg gynradd Gymraeg fod i fynd wedyn, Weinidog, i ddatblygu'u sgiliau iaith ymhellach ac i allu parhau i fwynhau ei siarad? A wnewch chi heddiw wneud ymrwymiad y byddwch yn gwneud popeth o fewn eich pŵer i sicrhau y bydd cynlluniau wedi'u cytuno ar addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg yn siroedd Merthyr, Blaenau Gwent a Mynwy yn ystod eich tymor fel Gweinidog addysg, os gwelwch yn dda?