Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 10 Tachwedd 2021.
Diolch i Janet Finch-Saunders am ei chwestiwn. Gallaf roi sicrwydd iddi, efallai, fy mod eisoes yn cael trafodaethau gyda'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r mater hwn. Mae wedi cael ei godi a’i drafod yn y Siambr hon sawl gwaith, gan gynnwys gan Cefin Campbell yn gynharach heddiw. Rwyf am adleisio'r pwynt a wnaeth y Dirprwy Weinidog mewn perthynas â'r pwynt a godwyd gan Cefin Campbell: byddwn yn cydweithio'n agos iawn mewn perthynas â'r pwynt penodol hwnnw.