Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 10 Tachwedd 2021.
Weinidog, roedd yn bleser ymuno â chi yn agoriad swyddogol yr ysgol newydd gwerth £10.2 miliwn, Ysgol Gynradd Hirwaun, ddydd Iau diwethaf, y rhoddodd Llywodraeth Cymru 65 y cant o'r cyllid tuag ati. Dyma’r ysgol ddiweddaraf mewn cyfres o ysgolion newydd i gwm Cynon, pob un wedi’i hariannu ar y cyd gan gyngor Rhondda Cynon Taf a Llywodraeth Cymru, gan fuddsoddi o ddifrif mewn pobl ifanc yn lleol. Mae ysgol Hirwaun hefyd yn cynnwys cyfleuster Dechrau'n Deg ar gyfer y blynyddoedd cynnar, felly pa drafodaethau y mae eich adran wedi'u cael ynglŷn â sut y gellir ymgorffori cyfleusterau tebyg mewn prosiectau ysgolion yn y dyfodol a adeiladir drwy gyllid cymunedau dysgu cynaliadwy?