Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 10 Tachwedd 2021.
Mae rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain wedi buddsoddi £1 biliwn yn ein hystâd addysgol hyd yn hyn. Fel y cyhoeddais yn ddiweddar, byddwn yn parhau i adeiladu ar y llwyddiant hwn, gan ddiwallu'r galw lleol am addysg a hefyd i gefnogi ein hymrwymiadau mewn perthynas â'r argyfwng hinsawdd a sicrhau ein bod yn darparu cymunedau dysgu cynaliadwy.