Diogelu Cymunedau Cymraeg

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 10 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:02, 10 Tachwedd 2021

Mae'r Aelod a minnau wedi trafod y materion hyn droeon, yn cynnwys cyn yr etholiad diwethaf, wrth gwrs. Rwy'n gwybod bod yr Aelod yn gwybod bod cyfyngiad ar yr hyn y gallaf ei ddweud am y penderfyniad penodol hwnnw, oherwydd fy mod i'n Aelod lleol ynghyd â bod yn Weinidog. Ond, wrth gwrs, pan yw'r Llywodraeth yn dodi gofynion o ran sicrhau ffyniant y Gymraeg mewn cymunedau, mae disgwyl i awdurdodau lleol gydweithio gyda'r Llywodraeth er mwyn sicrhau hynny.