Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 10 Tachwedd 2021.
Wel, nid yw pob un athro yn gorfod bod yn gallu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Rwyf newydd gael sgwrs gyda Cefin Campbell am y galw o ran recriwtio mwy o athrawon cyfrwng Cymraeg. Ond mae hefyd angen darparu cefnogaeth, fel rŷn ni drwy waith y ganolfan ddysgu ac ati, i oedolion allu dysgu Cymraeg ar gyfer ymestyn defnydd y Gymraeg yn ein cymunedau ni'n gyffredinol. Felly, mae amryw o ymyraethau o'r math yna ar gael.
Mae'n rhaid hefyd sicrhau, rwy'n credu, ein bod ni'n cefnogi, fel rhan o'r strategaeth roeddwn i'n sôn amdani'n gynharach, nid yn unig y cwestiwn o recriwtio, ond ein gallu i gefnogi pobl i ddysgu'r Gymraeg, a hefyd gefnogi arweinwyr ysgol er mwyn iddyn nhw allu cynllunio’n fwy strategol, efallai, a chael y sgiliau a'r gefnogaeth i wneud hynny er mwyn darparu addysg Gymraeg ehangach yn ein hysgolion ni.