Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 10 Tachwedd 2021.
Weinidog, mae'r cwricwlwm newydd yn gosod disgwyliad ar athrawon i allu addysgu rhywfaint drwy gyfrwng y Gymraeg. Er budd y disgybl, mae angen athrawon o safon uchel yma yng Nghymru gydag ystod eang o brofiadau a chefndiroedd yn addysgu yn ein hysgolion. Mewn ardaloedd megis de-ddwyrain Cymru, lle mae staff yn aml yn cael eu recriwtio neu hyd yn oed yn cymudo o dros y ffin yn Lloegr, gallai'r angen am sgiliau Cymraeg fod yn rhwystr i recriwtio. A allwch amlinellu pa gefnogaeth y bydd y Llywodraeth hon yn ei darparu i unrhyw athro sydd am addysgu yng Nghymru i ddysgu'r sgiliau iaith angenrheidiol er mwyn sicrhau nad oes rhwystr i ymgeiswyr wneud cais?