Part of the debate – Senedd Cymru am 3:28 pm ar 10 Tachwedd 2021.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl hon yn y Senedd heddiw am y pryder cynyddol ynghylch y cynnydd syfrdanol mewn sbeicio diodydd mewn clybiau nos yng Nghymru a ledled y DU. Rwy'n siŵr fod llawer ohonom yn y Siambr hon wedi clywed straeon erchyll, naill ai yn ein mewnflychau fel Aelodau o'r Senedd neu gan ein ffrindiau a'n teuluoedd, ac mae hwn yn fater sy'n effeithio ar bob rhan o Gymru. Mae'n flin gennyf ddweud bod llawer o fenywod wedi dweud wrthyf eu bod bellach yn rhy ofnus i fynd allan i fwynhau eu hunain yn ein clybiau am eu bod yn poeni am eu diogelwch eu hunain. Ac i wneud pethau'n waeth, nid sôn am sbeicio diodydd yn unig a wnawn mwyach. Dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, cafwyd llu o adroddiadau o fenywod yn cael eu sbeicio gan bigiadau yn ein clybiau nos hefyd. Mae'n rhaid i rywbeth newid. A newid yn gyflym.
Bydd rhai yn gofyn pam fy mod i, fel dyn, yn agor y ddadl hon heddiw, ar fater sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod. A thra nad wyf am siarad heddiw i fychanu neu 'ddynsbonio' unrhyw un o'r materion o dan sylw yma neu'r straeon y mae ein menywod yn eu hadrodd, mae'r rheswm roeddwn am siarad heddiw'n glir: er mwyn i ni, fel dynion, sefyll ochr yn ochr â'n chwiorydd, partneriaid, cydweithwyr a ffrindiau, a hyd yn oed menywod nad ydym yn eu hadnabod, i gyfleu'r neges i ddynion eraill fod yr ymddygiad hwn yn gwbl wrthun, yn annerbyniol ac nad oes lle iddo yn ein cymdeithas. Dylai pawb allu mynd allan a chael amser da gyda ffrindiau neu deulu yn ein clybiau nos heb ofni cael eu sbeicio gan yr unigolion ffiaidd ac atgas hyn. Ond mae arnaf ofn ei bod yn broblem sydd ar gynnydd. Yn 2019, cafwyd 1,020 o achosion o sbeicio diodydd yng Nghymru a Lloegr. Fodd bynnag, ym mis Medi a mis Hydref eleni yn unig, cadarnhawyd 198 o achosion o sbeicio diodydd, ynghyd â 24 achos o sbeicio drwy bigiad. Ac mae achosion sy'n ymwneud â phobl dan 18 oed wedi mwy na dyblu, o 32 yn 2015 i 71 yn 2018. A rhwng mis Ionawr a mis Medi 2019, cafodd 68 o achosion eu cofnodi. Ond cyfyngedig yw gwerth y data hwnnw hyd yn oed, gan ein bod hefyd yn gwybod nad yw'r heddlu'n cael gwybod am y rhan fwyaf o'r digwyddiadau. Dangosodd astudiaeth gan StopTopps nad oedd oddeutu 98 y cant o ddioddefwyr—98 y cant—wedi rhoi gwybod i'r heddlu am y digwyddiadau hyn, ac roedd llawer yn teimlo na fyddai pobl yn eu credu.
Yn ogystal, nid yw'r rheini sy'n cael eu sbeicio bob amser yn sylweddoli eu bod wedi cael eu sbeicio, neu maent yn ei anwybyddu fel rhywbeth nad yw o bwys, neu'n anffodus, efallai nad ydynt yn sylweddoli ei bod yn drosedd yn y lle cyntaf. Dyna reswm arall pam ein bod yn cyflwyno'r ddadl hon heddiw—i godi ymwybyddiaeth o'r broblem ac i annog pobl sy'n cael eu sbeicio i roi gwybod i'r heddlu, nid yn unig am ei bod yn drosedd, ond am y byddai'n rhoi syniad cliriach i ni o faint y broblem, ac i'r heddlu nodi mannau problemus posibl ar gyfer y math hwn o weithgarwch i allu mynd i'r afael ag ef ac i allu dal y troseddwyr sy'n gwneud hyn fel na allant niweidio unrhyw un arall yn y dyfodol.
Mae'r achosion cynyddol o sbeicio wedi ysgogi nifer o bobl i gymryd camau i fynd i'r afael â'r mater hwn. Y mwyaf nodedig, efallai, yw boicot diweddar Girls Night In a ddigwyddodd dros bythefnos yn ôl. Fe wnaethant drefnu boicot cydgysylltiedig o sefydliadau bywyd nos ledled y DU i annog y diwydiant bywyd nos i fod o ddifrif ynglŷn â'r mater, yn ogystal â diogelwch menywod ifanc. Credaf ei bod yn bwysig, serch hynny, nad ydym yn paentio'r diwydiant bywyd nos cyfan gyda'r un brwsh. Mae rhai lleoliadau wedi rhoi ystyriaeth ddifrifol i hyn, a dylid eu canmol am hynny—clybiau nos fel Sin City yn Abertawe yn fy rhanbarth, lle mae'n rhaid imi gyfaddef fy mod wedi treulio rhywfaint o amser dros y blynyddoedd. Mae'n un o'r lleoliadau hynny. Maent wedi gweithredu'n rhagweithiol, gan archebu 12,500 o StopTopps—math o gaead gwrth-sbeicio—yn ogystal â'u polisi hirsefydlog i gyfnewid unrhyw ddiodydd yn y lleoliad y mae pobl yn amau eu bod wedi'u sbeicio.
Ond gwn nad dyna fydd y profiad ym mhob clwb nos ym mhob tref a phob dinas yng Nghymru, a dylai'r rheini a all wneud mwy wneud hynny. Fodd bynnag, gŵyr pob un ohonom na all hyn fod yn gyfrifoldeb i berchnogion y busnesau hynny'n unig. Er bod rhai yn y diwydiant bywyd nos wedi cymryd camau, ni all y cyfrifoldeb fod ar y clybiau nos yn gyfan gwbl yma, yn enwedig mewn diwydiant sydd wedi dioddef trafferthion ariannol aruthrol dros y 18 mis diwethaf oherwydd cyfyngiadau COVID.
Ond mae mwy y gall y Llywodraeth ei wneud bob amser yn y maes hwn, a dyna pam rwy'n croesawu, er enghraifft, y buddsoddiad o £30 miliwn ledled y DU i helpu i fynd i'r afael â'r mater hwn. Mae hynny'n cynnwys £5 miliwn i gronfa diogelwch menywod yn y nos, yn ychwanegol at y £25 miliwn a roddwyd i'r gronfa strydoedd mwy diogel. Mae'r buddsoddiad ariannol hwn gan Lywodraeth y DU yn hanfodol i gefnogi cynlluniau fel Ask for Angela, sef system sy'n helpu pobl i deimlo'n ddiogel rhag ymosodiad rhywiol drwy ddefnyddio allweddair i nodi pan fyddant mewn perygl neu mewn sefyllfa anghyfforddus.
Rydym hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried ystod o syniadau ymarferol yn ein cynnig heddiw i sicrhau diogelwch menywod mewn clybiau nos. Bydd gwella teledu cylch cyfyng mewn lleoliadau, er enghraifft, yn helpu i roi mwy o dystiolaeth wrth erlyn y troseddau hyn, a gall roi hyder i bobl roi gwybod amdanynt, yn enwedig y rheini y soniais amdanynt yn gynharach a oedd yn ofni na fyddai pobl yn eu credu. A byddai darparu mwy o gaeadau poteli a gorchuddion diodydd mewn lleoliadau hefyd yn helpu i fynd i'r afael â'r broblem hon, ac yn gwneud sbeicio diodydd bron yn amhosibl. A gall helpu staff i nodi'r arwyddion yn gynharach fod rhywun wedi cael eu sbeicio eu helpu i drin y materion hyn pan fyddant yn codi.
Dyna pam fod gwelliannau Llywodraeth Cymru heddiw yn siomedig, gan fod angen i Lywodraeth Cymru gamu i mewn a gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau diogelwch y rheini sy'n mynd allan gyda'r nos. Yn hytrach na lleihau eu cyfrifoldeb, dylai Llywodraeth Cymru fod yn cefnogi ein cynnig, sy'n gam pwysig i fynd i'r afael â sbeicio a gwneud lleoliadau'n amgylchedd mwy diogel i bawb ei fwynhau. Ac mae'r sefyllfa bresennol yn galw am weithredu, gan nad diodydd yn unig sy'n cael eu sbeicio bellach, ac mae tuedd frawychus o chwistrellu pobl â nodwyddau. Mae wedi ychwanegu elfen greulon arall o berygl at yr hyn sydd eisoes yn fater hynod bwysig.
Ers mis Medi—mis Medi—cafwyd adroddiadau am 218 digwyddiad o'r fath yn y DU, a gwyddom y bydd llawer mwy heb eu cofnodi. A dylem roi ystyriaeth lawer mwy difrifol i sbeicio pobl drwy bigiad. Mae'n rhan o gynnydd mewn camdriniaeth wedi'i thargedu tuag at fenywod yn bennaf. Mae ymhlith y troseddau mwyaf difrifol y gallai unrhyw un eu cyflawni. Nid oes ddwywaith amdani—mae gweithred o'r fath yn cael ei chyflawni oherwydd bwriad i dreisio menywod, ac mae'n rhaid ei thrin gyda'r difrifoldeb y mae'r ensyniadau hynny'n eu haeddu. Ond y cwestiwn allweddol yw hwn: beth fydd yn newid ar ôl i sylw'r cyfryngau i'r stori dawelu? Beth fydd yn newid ar ôl i'r cynnig hwn gael ei drafod ac ar ôl inni bleidleisio arno heddiw? A fyddwn yn gadael y Siambr hon wedi gwneud popeth a allwn i ddiogelu ac amddiffyn menywod? A dyna pam rwy'n galw ar bawb i gefnogi ein cynnig heddiw.