5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Sbeicio

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 10 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 3:35, 10 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch hefyd o siarad yn y ddadl bwysig hon, oherwydd mae hwn yn fater sydd, yn llythrennol, yn fy nghadw'n effro yn y nos oherwydd bod gennyf ferch 19 oed. Mae'n dweud wrthyf, bob tro y bydd yn mynd allan i far neu glwb, neu i barti yn nhŷ myfyriwr arall, ei bod yn ymwybodol, yn anffodus, fod yn rhaid iddi geisio diogelu ei hun a'i ffrindiau rhag iddynt gael eu sbeicio naill ai drwy ddiodydd neu drwy gael eu chwistrellu, pethau a allai arwain at drais rhywiol yn y pen draw. Rwy'n gorwedd yn effro yn aros am y neges destun i ddweud ei bod gartref yn ddiogel. 

Mam i fenyw ifanc neu beidio, rhaid bod y mater hwn yn destun pryder i ni i gyd, a rhaid i ni, gynrychiolwyr y gymdeithas Gymreig, wneud mwy i fynd i'r afael â phroblem casineb at fenywod, aflonyddu rhywiol a thrais rhywiol sy'n ganolog i'r ddadl heddiw a gwelliannau Plaid Cymru i'r cynnig. Nid yw hon yn broblem newydd, ac er nad yw'n drosedd a gyflawnir yn erbyn menywod yn unig, mae'r mwyafrif llethol o ddioddefwyr sbeicio yn fenywod, ac rwy'n siŵr fod pob menyw yn y Siambr hon a thu hwnt, ar ryw adeg neu'i gilydd, wedi teimlo'r un pryder yng nghefn eu meddyliau wrth iddynt fwynhau noson allan. Ond mae'r broblem yn gwaethygu, ac nid ydym ni fel cymdeithas yn mynd i'r afael ag achos y broblem hon. Ac nid yw'r system cyfiawnder troseddol yn gwasanaethu nac yn gwrando ar fenywod sy'n ddioddefwyr sbeicio ac ymosodiadau a thrais rhywiol. Nid oes ond angen inni edrych ar yr ystadegau cywilyddus ar y gostyngiad yn nifer yr erlyniadau a'r euogfarnau trais rhywiol a domestig i weld bod hyn yn wir. 

Yn ystod y ddau fis diwethaf, fel y dywedodd Tom Giffard, cadarnhaodd heddluoedd y DU 198 o adroddiadau o sbeicio diodydd, a 56 o ddigwyddiadau gyda dioddefwyr yn dweud eu bod yn ofni eu bod wedi cael eu sbeicio drwy bigiad. A dim ond crafu'r wyneb yw hynny, oherwydd canfu ymchwil a gyflawnwyd gan Stamp Out Spiking UK nad oedd 98 y cant o ddioddefwyr sbeicio yn rhoi gwybod amdano, gan nad oeddent yn credu yn y broses gyfiawnder neu am eu bod yn meddwl na fyddai'r heddlu'n eu credu. Nid ydym yn gwybod i ba raddau y mae'r drosedd hon yn digwydd, felly sut y gallwn fynd i'r afael â hi'n iawn? Ac oherwydd ein bod yn gwybod bod cynifer o achosion yn mynd heb eu cofnodi, gwyddom felly nad ydym yn gwrando ar y rhai sy'n dioddef canlyniadau hunllefus y drosedd hon nac yn eu cefnogi. 

Er y gall cyflwyno cynigion fel gorchuddion diodydd a chaeadau poteli, gwell diogelwch a theledu cylch cyfyng ganiatáu i bobl deimlo'n fwy diogel rhag sbeicio wrth fynd allan i rai lleoliadau, megis clybiau a bariau, nid yw hynny'n wir, wrth gwrs, mewn partïon yn nhai pobl, ac ni fydd y mesurau hyn yn newid yr agweddau diwylliannol sy'n gyrru trais rhywiol yn y lle cyntaf. Oherwydd os ydym o ddifrif ynglŷn ag atal sbeicio, mae'n rhaid inni fynd i'r afael â gwraidd y broblem sy'n arwain at y drosedd hon. A gadewch i ni fod yn glir: gellir gweld patrymau ymddygiad sy'n codi o gasineb at fenywod a all arwain at sbeicio mewn nifer enfawr o leoliadau eraill ledled ein cymdeithas. Ceir lefel uchel o drais ac aflonyddu rhywiol, epidemig mewn gwirionedd, yn ôl Cymorth i Fenywod Cymru, y tu hwnt i sbeicio ac economi'r nos. Mae'n rhaid ystyried bod yr agweddau sy'n gyrru aflonyddu rhywiol a thrais a cham-drin yn gwbl annerbyniol ym mhob lleoliad, gan gynnwys y cartref, mewn ysgolion a cholegau ac yn y gweithle. Er mwyn helpu i gyflawni hyn, mae'n rhaid inni fuddsoddi ac ariannu mentrau'n gynaliadwy gyda'r nod o atal trais yn erbyn menywod, a chefnogi'r holl oroeswyr yn yr un modd ar hyd a lled Cymru. 

Mae addysg, wrth gwrs, yn allweddol i atal, a soniodd Tom Giffard am ymgyrch Big Night In mewn colegau a phrifysgolion, sydd wedi codi ymwybyddiaeth o ffenomenon sbeicio ac sydd wedi gwneud cyfres o ofynion ymarferol yn deillio o brofiad menywod eu hunain, gan gynnwys pwyslais ar hyfforddiant i staff bariau a chlybiau, yn ogystal ag i bob glasfyfyriwr, ar sut i ymateb i ddigwyddiadau o'r fath. Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i weithio gyda sefydliadau partner i weithredu'r gofynion hyn, a helpu i edrych ar atal, lles dioddefwyr a chymorth drwy ddarparu strategaeth gynhwysfawr a phenodol ar hyn ar gyfer economi'r nos yng Nghymru. 

Ac mae'n amlwg fod angen i Lywodraeth Cymru bwyso am wella'r mecanweithiau adrodd, y prosesau a'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â sbeicio, ymosodiadau rhywiol ac aflonyddu, er mwyn sicrhau bod menywod yng Nghymru yn teimlo y gallant roi gwybod am y troseddau hyn a gweld cyfiawnder yn cael ei weinyddu. Ar hyn o bryd, nid yw'r weithred o sbeicio ynddi ei hun wedi'i chategoreiddio'n benodol yn y gyfraith; fe'i rhestrir yn hytrach fel trosedd o dan ddeddfwriaethau eraill, sydd hefyd yn cynnwys llawer o fathau eraill o droseddau. Mae hyn yn amharu ar gasglu data, ac mae'n golygu nad oes gennym ddarlun cywir o'r broblem. Mae hefyd yn hepgor yr elfen ryweddol na ellir gwadu ei bod yn bresennol yn y rhan fwyaf o achosion o sbeicio. Dylai Llywodraeth Cymru alw ar y Swyddfa Gartref i adolygu'r ffordd y caiff sbeicio ei ddosbarthu a'i gofnodi er mwyn caniatáu i'r sector bywyd nos ac awdurdodau perthnasol gael meincnod i allu archwilio gwahaniaethau rhanbarthol a meddwl am atebion ar sail dealltwriaeth well.

Yn y cyfamser, dylid annog a chefnogi heddluoedd yng Nghymru i nodi pan fydd troseddau'n cael eu hysgogi gan gasineb tuag at ryw neu rywedd, fel y gellir gwella'r data ar gyfer Cymru'n unig. A dylai Llywodraeth Cymru hefyd ofyn am eglurder gan Lywodraeth y DU ynglŷn â'u cynlluniau i wneud casineb at fenywod yn drosedd gasineb, newid a argymhellwyd gan arolwg cyfredol Comisiwn y Gyfraith. Mae troseddau fel sbeicio yn digwydd i fenywod am mai menywod ydynt. Hyd nes y bydd cymdeithas yn deall hyn, hyd nes y caiff hyn ei ymgorffori yn y gyfraith a'i gydnabod gan yr heddlu a chan y llysoedd, ni fydd menywod sy'n cael eu sbeicio byth yn cael eu credu, eu diogelu a'u cefnogi'n llwyr, a hyd nes y bydd hynny'n digwydd, bydd y troseddau hyn yn parhau. Mae'n rhaid inni greu'r Gymru rydym eisiau ei gweld; mae'n rhaid i ni feithrin cenedl lle mae'r rhywiau'n gyfartal—