5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Sbeicio

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 10 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 4:10, 10 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Rwyf hefyd am wneud dau bwynt i ddechrau. Credaf y byddwn i gyd yn rhannu'r negeseuon hollbwysig hyn. Yn bennaf oll, gadewch inni fod yn glir nad yw'n fater o ddisgwyl i fenywod addasu eu hymddygiad—gwnaeth Delyth Jewell y pwynt hwn—mae'n fater o ddisgwyl i'r rhai sy'n cam-drin newid eu hymddygiad hwy, ac nid y menywod a ddylai ysgwyddo cyfrifoldeb am y troseddau hyn, cyfrifoldeb y dynion llechwraidd sy'n eu cyflawni ydyw.

Mae'r ail neges heddiw i'r rhai sy'n adnabod y tramgwyddwyr—ac mae hon yn neges gyhoeddus; gobeithio y gellir rhannu'r ddadl hon yn ehangach: os ydych yn gwybod am rywun sy'n cyflawni'r troseddau hyn, neu'n eu gweld yn eu cyflawni, mae gennych ddyletswydd foesol i roi gwybod amdanynt cyn gynted ag y bydd yn ddiogel ichi wneud hynny. Felly, mae gennym neges gref yn ein strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: peidiwch â chadw'n dawel. Mae'n neges bwerus ac mae angen inni sicrhau ei bod yn cael ei chlywed heddiw. Mae gennym ddyletswydd yn ein cymunedau i dynnu sylw at ymddygiad amhriodol a chynnig cymorth lle mae'n ddiogel i wneud hynny. Gwnaeth Huw Irranca-Davies y pwynt ynglŷn â rôl dynion i gael eu grymuso i ymgysylltu â dynion a bechgyn eraill er mwyn tynnu sylw at ymddygiad camdriniol a rhywiaethol ymhlith eu ffrindiau, eu cydweithwyr a'u cymunedau i hyrwyddo diwylliant o gydraddoldeb a pharch. Felly, mae hyn yn ymwneud â phryder gwirioneddol menywod a merched ifanc mewn perthynas â'u diogelwch, yn enwedig yn lleoliadau'r economi nos. Dylai menywod allu mwynhau noson allan a bod yn ddiogel, dylai menywod allu cael diod a bod yn ddiogel. Yn syml, dylai menywod allu mwynhau eu bywydau a bod yn ddiogel.

Ddirprwy Lywydd, credaf ei bod yn hollbwysig ein bod yn mynd i graidd y mater—yr hyn sy'n ei achosi, fel y dywedodd Sioned Williams. Dyma pam y mae'r strategaeth genedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol mor bwysig; dyna lle mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â hyn ac rwy'n falch iawn o gael cyfle i adrodd ble rydym arni ar y pwynt hwn. Rydym yn cryfhau ac yn ehangu ein strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol; rydym yn ei chryfhau ac yn ei hehangu i gynnwys ffocws ar drais ac aflonyddu yn erbyn menywod a merched mewn mannau cyhoeddus yn ogystal ag yn y cartref. A dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, gwyddom fod y mannau cyhoeddus, y gymuned, y stryd, gan gynnwys trafnidiaeth hefyd—ac mae'n amlwg fod angen inni edrych ar hyn yn fanwl iawn mewn perthynas â'r economi nos.

Rydym wedi bod yn canolbwyntio i raddau helaeth ar gam-drin domestig a thrais yn y cartref ac wrth gwrs bydd hynny'n parhau, ond rhaid inni gryfhau ac ehangu ein strategaeth yn awr—ac rydym yn gwneud hynny—i gynnwys mannau cyhoeddus i fenywod hefyd. Mae'n strategaeth sydd wedi'i diweddaru a byddaf yn ei lansio cyn bo hir. Fe'i datblygwyd ochr yn ochr â grŵp o sefydliadau partner allweddol, gan gynnwys y rheini yn y sector arbenigol sy'n cefnogi dioddefwyr a goroeswyr trais yn erbyn menywod a cham-drin domestig. Ei nod yw cynyddu cydweithio â'r heddlu a phartneriaid ym maes cyfiawnder troseddol, fel y galwyd amdano heddiw, gan gynnwys goroeswyr sydd hefyd yn ymwneud â phob agwedd ar ddatblygu'r strategaeth a'r ddarpariaeth. Mae'n rhaid inni sicrhau ei bod wedi'i chydlynu a'i bod yn effeithiol ac yn cynnwys pob asiantaeth.

Ond mae mynd i'r afael â thrais gwrywaidd, anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a chasineb at fenywod yn galw am weithredu ar ddau ben y sbectrwm wrth gwrs. Rhaid inni gefnogi goroeswyr, rhaid inni ddwyn cyflawnwyr i gyfrif, ond rhaid inni greu newid ymddygiad gwirioneddol. A dyma sut yr awn i'r afael â'r ymagweddau negyddol llechwraidd a hollbresennol tuag at fenywod sydd i'w gweld mewn gweithredoedd fel sbeicio. Mae gweithio gyda phlant a phobl ifanc a thynnu sylw at bwysigrwydd perthnasoedd diogel, cyfartal ac iach yn mynd i gael sylw mawr yn ein cwricwlwm newydd, ond credaf y bydd y strategaeth ddiwygiedig yn mynd i'r afael â'r materion hyn yn amlwg iawn.

Rwyf am dreulio eiliad ar ymateb yr heddlu, oherwydd dyma lle mae rôl allweddol yr heddlu yn hollbwysig. Ddoe, cyfarfûm â'r prif gwnstabl arweiniol, Pam Kelly, a'r dirprwy gomisiynydd heddlu a throseddu, Eleri Thomas, i drafod sbeicio, i ofyn i holl heddluoedd Cymru adrodd ar y mater, a rhoddasant eu hymrwymiad i mi, fe'm sicrhawyd bod y pedwar heddlu o ddifrif ynglŷn â'r mater, a chefais adroddiadau ar bob agwedd ar y gwaith hwnnw. Yn wir, mae bwrdd partneriaeth plismona a throseddu Cymru, a gadeirir gennyf fi, yn gyfle pwysig a gwerthfawr iawn. Mae ar agenda ein cyfarfod nesaf, y bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ei fynychu hefyd, felly ceir cryn dipyn o gydweithio yn ogystal.

Felly, mae'n hanfodol ein bod yn symud ymlaen yn yr ymateb hwn, ac rwyf am ddweud hefyd, yn fyr iawn, o ran casineb at fenywod fel trosedd casineb, rydym wedi bod yn glir nad yw'r drefn troseddau casineb bresennol yn addas i'r diben. Nid yw'n ymdrin â chasineb at fenywod fel arddangosiad clir o drosedd casineb, ac arhoswn am ganlyniad adolygiad Comisiwn y Gyfraith, a gofynnwn i Lywodraeth y DU gyflymu deddfwriaeth i ymateb i hynny.

Felly, i orffen, a gaf fi ddweud bod Joyce Watson wedi tynnu sylw at y Rhuban Gwyn? Mae'r ddadl yn un amserol. Cynhelir Diwrnod y Rhuban Gwyn ar 25 Tachwedd. Mae'r 16 diwrnod o weithgarwch sy'n dilyn yn galw ar bob dyn i wneud safiad yn erbyn trais ar sail rhyw a rhywedd ar bob ffurf ac i roi diwedd ar drais gan ddynion yn erbyn menywod. Lysgenhadon y Rhuban Gwyn—gobeithio y bydd ein holl Aelodau gwrywaidd yn y Senedd yn ymroi i hyn. Mae Jack Sargeant wedi arwain y ffordd yn bendant iawn. Ystyriwch ddod yn llysgennad Rhuban Gwyn ac addo peidio byth â chyflawni, esgusodi neu gadw'n dawel am drais gan ddynion yn erbyn menywod, oherwydd gyda'n gilydd, credaf y gallwn uno i roi diwedd ar drais ar y strydoedd a thrais yn y cartref. Rhaid inni uno er mwyn newid, a rhaid inni uno er mwyn galluogi pawb i fyw heb ofn. Diolch yn fawr.