Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 10 Tachwedd 2021.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i chi, Weinidog, am eich ymateb i'r ddadl a glywsoch heddiw. Wrth gloi'r ddadl hon mae wedi bod yn galonogol gweld yr holl Aelodau, o bob rhan o'r Siambr, yn cefnogi prif fyrdwn ein cynnig Ceidwadol heddiw i fynd i'r afael â sbeicio. Ac rwy'n falch fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi cyflwyno'r ddadl hynod bwysig hon i galon democratiaeth yng Nghymru yma yn y Senedd, gan gyflwyno mesurau a syniadau real a fydd yn helpu i fynd i'r afael â'r sefyllfa bryderus hon.
Yn y fan hon, hoffwn ddiolch hefyd i Joyce Watson ac ymuno ag eraill i ddiolch i chi am rannu eich hanes pwerus am brofiad a gawsoch, sy'n sicr yn rhoi ffocws i bwysigrwydd y drafodaeth hon yma a'r angen inni siarad am y mater fel Aelodau, ac i'r cyhoedd glywed.
Mae llawer o'r Aelodau wedi dangos eu bod yn poeni, yn gwbl briodol, ynglŷn â'r cynnydd yn nifer yr achosion y rhoddir gwybod amdanynt, ac mae'n hanfodol fod gan y rhai sydd wedi dioddef yn sgil sbeicio hyder i roi gwybod i'r awdurdodau perthnasol. Rwy'n bryderus iawn ynglŷn â'r hyn a nododd Joel James, sef bod nifer yr euogfarnau yn isel tu hwnt er gwaethaf y cynnydd sydyn mewn adroddiadau o sbeicio. Er enghraifft, hyd yma yn 2021, yn fy rhanbarth i yng ngogledd Cymru, cafwyd 22 o adroddiadau o sbeicio, a arweiniodd at arestio un person yn unig. Nid yw hynny'n ddigon da, ac mae angen ei wella. Mae hefyd yn destun pryder mawr nad yw llawer o'r bobl sy'n cael eu sbeicio yn rhoi gwybod amdano, a gellir cysylltu hyn â'r diffyg cysylltiad pur rhwng nifer yr adroddiadau a nifer y rhai sy'n cael eu harestio. Wrth agor y ddadl, tynnodd Tom Giffard sylw at yr ymchwil gan StopTopps, fel y gwnaeth Sioned Williams ac Aelodau eraill yma heno. Mae eu hymchwil a gynhaliwyd eleni wedi datgelu bod 38 y cant o bobl wedi dioddef yn sgil sbeicio eu diodydd o leiaf unwaith, gyda 98 y cant o ddioddefwyr—ie, 98 y cant o ddioddefwyr—heb roi gwybod i'r heddlu am y drosedd. Felly, roedd clywed hynny yn y ddadl heddiw yn peri pryder mawr. Ac yn ogystal, fel y nododd Mr Giffard yn ei agoriad hefyd, dywedodd tua 70 y cant o'r ymatebwyr yn yr un arolwg eu bod yn poeni ynglŷn â chael eu diodydd wedi'u sbeicio.
Credaf fod Sioned Williams wedi tynnu sylw at bwynt pwysig ynghylch y ddeddfwriaeth a'r cyfreithiau sydd ar gael i orfodi rhai o'r materion hyn. Wrth gwrs, mae'n werth nodi, o dan Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003, pan fydd diod yn cael ei sbeicio, a bod cymhelliant rhywiol, gallai arwain at ddedfryd o 10 mlynedd o garchar. Felly, mae'n amlwg fod gan yr heddlu nifer o ddulliau y gallant eu defnyddio, a bod ganddynt bŵer i ddod â'r rhai sy'n cyflawni'r troseddau erchyll hyn o flaen eu gwell, ac mae angen iddynt wneud cymaint o ddefnydd ohonynt â phosibl. Oherwydd os na chânt eu defnyddio, yn amlwg, ni fydd pobl yn rhoi gwybod am ddigwyddiadau yn y ffordd y dylent.
Ar wahân i weithredu gan yr heddlu, nododd yr Aelodau rai o'r mesurau ymarferol a argymhellwyd yma heddiw i leddfu problem sbeicio. A nododd Gareth Davies yn rymus fod angen inni weithredu'n gyflym, a gweithio gyda rhanddeiliaid i ddarparu caeadau ar gyfer poteli a gorchuddion diodydd yn rhad ac am ddim mewn lleoliadau, gwella diogelwch, hyfforddi staff mewn lleoliadau hefyd, a sicrhau bod gan leoliadau ddigon o ffyrdd o hwyluso erlyniad. Serch hynny, mae'n amlwg yn dda gweld y gwaith y mae lleoliadau eisoes yn ei wneud i geisio rhoi camau ar waith i atal sbeicio diodydd rhag digwydd. Roeddwn yn falch o glywed hefyd, o ddadl San Steffan yn gynharach yr wythnos hon, fod mesurau'n cael eu rhoi ar waith, a chlywyd geiriau'r Ysgrifennydd Cartref y prynhawn yma hefyd.
Rhaid imi ddweud fy mod yn siomedig ar y cychwyn pan ddarllenais eiriad y gwelliant gan y Llywodraeth i ddileu popeth, o ystyried y mesurau ymarferol roeddem ni fel Ceidwadwyr yn ceisio eu cyflwyno heddiw, a gofynnir i ni'n aml ar y meinciau hyn i gyflwyno camau gweithredu a gweithgareddau. Ond Weinidog, rwy'n cydnabod ac yn gwerthfawrogi eich geiriau i dynnu sylw at eich cefnogaeth i fyrdwn yr hyn y ceisiwn ei wneud yma heddiw, ac rwy'n falch ein bod wedi gallu dechrau'r cyfeiriad teithio hwn, fel grŵp ar y meinciau hyn y prynhawn yma.
Credaf i Janet Finch-Saunders sôn am bwynt pwysig o ddechrau 2020 lle holwyd y Gweinidog cyllid ynglŷn â'r cynllun cyflawni ar gamddefnyddio sylweddau yn y dyfodol, a'r ffaith nad oes sôn ynddo am sbeicio, a chredaf fod angen adolygu hwnnw, a'i adolygu ar gryn dipyn o frys.
Rwyf am ddod â fy nghyfraniad i ben yn y man, Ddirprwy Lywydd, ond ar y pwynt yma, rwyf am dynnu sylw—rwyf innau hefyd yn dad i dair merch ifanc, ac fel y soniodd Sioned Williams, yn anffodus, mae hynny'n rhywbeth sydd ar flaen fy meddwl, yn hytrach nag yng nghefn fy meddwl, o bryd i'w gilydd, ac yn bersonol rwy'n bryderus iawn ynglŷn â sbeicio ac mae'n fater sy'n agos at fy nghalon. Un diwrnod yn y dyfodol, rwy'n siŵr mai fy merched i fydd yn mynychu bar neu glwb nos, ac mae gennyf ddiddordeb mawr mewn sicrhau ein bod yn creu amgylchedd diogel i bobl—i bawb—allu mwynhau eu hunain heb ofn a heb boeni. Mae llawer o'r Aelodau wedi tynnu sylw at hynny heddiw, a diolch i Delyth Jewell am eich cyfraniad chi a Huw Irranca hefyd am dynnu sylw at y ffaith bod yna faterion cymdeithasol a diwylliannol y mae angen mynd i'r afael â hwy heddiw, ochr yn ochr â chamau ymarferol y gellid eu gweithredu'n gyflym—yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach—wrth inni aros i'r materion cymdeithasol a diwylliannol hynny gael sylw hefyd.
Credaf fod Gareth Davies wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cydnabod bod y rhan fwyaf o ddioddefwyr yn fenywod, ond bod yna ddynion hefyd ymhlith y dioddefwyr, ac mae angen inni sicrhau eu bod yn teimlo y gallant roi gwybod, ac nad yw'n cael ei ystyried fel mater i fenywod yn unig. Ond wrth gwrs, mae'n ymddangos mai lleiafrif bach o ddynion pathetig yw'r mwyafrif llethol o gyflawnwyr—yr holl gyflawnwyr—a byddem i gyd yn cydnabod hynny, ac yn sicr dylent wynebu grym llawn y gyfraith sy'n bodoli.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am y cyfraniad adeiladol i'r ddadl heddiw, ac mae'n galonogol iawn fod pob ochr i'r sbectrwm gwleidyddol yn brwydro dros yr un canlyniad. Rwy'n falch fod Gweinidog y Llywodraeth wedi gweld ein bod yn cyflwyno awgrymiadau ac atebion addas o feinciau'r gwrthbleidiau, ac fel y gwelwyd heddiw, rydym yn darparu atebion synhwyrol ac ymarferol i broblem sy'n peri llawer iawn o bryder. Mae hwn yn argyfwng cenedlaethol ac mae gennym ni fel gwleidyddion ddyletswydd i gadw ein cenedl a'n pobl yn ddiogel. Mae sbeicio'n ofnadwy, mae angen ei atal, ac fel y dywedais, mae angen i gyflawnwyr deimlo grym llawn y gyfraith. Mae ein cynnig yn awgrymu llawer o fesurau a all sicrhau bod hyn yn digwydd, a hoffwn annog pob Aelod i gefnogi ein cynnig heddiw. Diolch yn fawr iawn.