Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 10 Tachwedd 2021.
Lywydd, mae gan Gymru—o, mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd—mae gan Gymru'r sylfaen wybodaeth a'r cyfalaf naturiol posibl i ddatblygu'r sector dyframaethu ymhellach, ond mae angen i Lywodraeth Cymru ailalinio a chanolbwyntio polisi ac adnoddau ar y sector mewn ffordd fwy cydgysylltiedig ac integredig. Gall y sector dyframaethu gefnogi'r gwaith o greu swyddi, arloesi, cyfrannu at wasanaethau ecosystemau ar sail natur a hawlio'i le yng nghenhadaeth Cymru i ddod yn wlad sy'n cynhyrchu bwyd cynaliadwy.